Mynegi pryderon am effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach

Cyhoeddwyd 04/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2019

Byddai Brexit heb gytundeb yn amharu'n sylweddol ar y sectorau addysg uwch ac addysg bellach - yn eithriadol felly o ran y sector addysg uwch, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

text-books

Fel rhan o'i ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i'r sectorau addysg. Daeth y Pwyllgor i dri brif ganlyniad:

  • Canfu'r Pwyllgor ei bod yn bosibl, hyd yn oed gyda Chytundeb Ymadael cymharol ffafriol, y byddai angen i lawer o feysydd allweddol gweithgarwch prifysgolion a cholegau wneud newidiadau. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer y sector addysg uwch, lle mae gweithgarwch sylweddol yn gysylltiedig â symudiad rhydd staff a myfyrwyr y DU a'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

  • Er gwaethaf gwarantau cyllido'r Trysorlys, byddai sefyllfa heb gytundeb yn amharu'n sylweddol ar y ddau sector - yn arbennig felly i'r sector addysg uwch gyda'i ystod eang o gydweithrediadau rhyngwladol a chyfranogiad mewn rhwydweithiau ymchwil.

  • Roedd tystiolaeth a gafwyd yn nodi mai ychydig iawn o gyfleoedd oedd yn codi o Brexit yn y byrdymor, a chyfeiriwyd at rai ohonynt yng nghyd-destun gwneud y gorau o Brexit.

    Yn deillio o'i brif gasgliadau, tynnodd y Pwyllgor sylw at yr wyth mater allweddol canlynol sydd, er eu bod yn gysylltiedig i ryw raddau, yn cael eu hystyried ar wahân yn yr adroddiad:

 

Mater Allweddol 1: - Cyfyngiadau mewnfudo o ran staff a myfyrwyr yr UE

Mater Allweddol 2: Diddymu Grantiau Ffioedd Dysgu a'r posibilrwydd o golli benthyciadau myfyrwyr

Mater allweddol 3: Y pwysau cyllido presennol a recriwtio myfyrwyr

Mater Allweddol 4: ERASMUS+ a chynlluniau symudedd eraill

Mater Allweddol 5: Disodli cyllid yr UE

Mater Allweddol 6: Dibyniaeth colegau addysg bellach ar gryfder cyflogwyr a'r  economi

Mater Allweddol 7: Heriau sy'n wynebu'r sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru

Mater Allweddol 8: Parodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit

 

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru fynnu pwerau gweithredol, drwy unrhyw Fil Mewnfudo y DU yn y dyfodol, er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheolau mewnfudo sy'n wahanol yn ofodol yn benodol ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd yng Nghymru. (Nodir yn yr adroddiad nad oedd Michelle Brown AC yn cytuno â'r argymhelliad hwn).

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach i weithredu a phrofi trefniadau ariannu a fydd yn gwarantu dim amhariad nac ansicrwydd ariannol i fyfyrwyr ERASMUS+, yn enwedig y rheini sy'n dilyn graddau ieithoedd modern, gan ystyried yr amodau sy'n gysylltiedig â gwarant cyfredol y Trysorlys .

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gomisiynu prosiect ymchwil pellach, gan adeiladu ar y gwaith diweddar a lywiodd rhaglen beilot symudedd rhyngwladol, i lunio darlun manylach o effaith symudedd rhyngwladol ar ganlyniadau myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithio ar y cyd â'r sector addysg bellach i ddatblygu a chyhoeddi cynllun ar y cyd, a ariennir gan gais am gyllid o Gronfa Bontio'r UE a chan ystyried yr anghenion rhanbarthol gwahanol, i ganfod unrhyw ofynion sgiliau newidiol y sectorau hynny sydd fwyaf tebygol o wynebu ymyriad sy'n gysylltiedig â Brexit, ac ymateb i hynny.

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd sylfaenol y sector ymchwil ac arloesi i ffyniant Cymru a chydnabod y perygl sy'n gysylltiedig â disgyn y tu ôl i Loegr a'r Alban o ran ariannu'r gweithgareddau hyn mewn sector cystadleuol iawn. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ariannu'r argymhellion a wnaed gan yr Athro Reid yn ei adolygiad.

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

"Does dim amheuaeth y bydd Brexit yn cael effaith aflonyddgar ar addysg uwch ac addysg bellach ac, er ein bod yn cydnabod bod themâu a gaiff eu rhannu ar draws y sectorau - bydd yr effaith ar y ddau yn wahanol.

"Wrth ystyried gwneud popeth posibl i helpu i liniaru unrhyw aflonyddu, mae'n bwysig nad ydym yn cyfuno'r effeithiau gweladwy iawn ar ein prifysgolion, â'r effeithiau ar ein colegau sydd ar y cyfan wedi'u gwreiddio'n fwy lleol. Felly, wrth wneud ein hargymhellion rydym wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth ar gyfer y ddau sector."

Mewn perthynas â'r argymhellion penodol aeth Lynne Neagle AC ymlaen i ddweud:

"Mae'r Pwyllgor yn bryderus iawn y bydd y newid sydd bron yn anochel o'r system fewnfudo bresennol yn cael effaith niweidiol ar brifysgolion. Er mwyn lleihau ansicrwydd, rhaid cael cyn lleied o newid â phosibl i'r rheolau sy'n rheoli symudiad myfyrwyr a staff yr UE - dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau'r pwerau gweithredol sydd eu hangen er mwyn eu galluogi i wneud rheolau mewnfudo gofodol gwahanol yn benodol ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd yng Nghymru.

"Er mwyn helpu i sicrhau bod aflonyddu ar symudiad rhyngwladol yn cael ei gadw i leiafswm, rhaid inni hefyd ddeall yr hyn sy'n cymell myfyrwyr yr UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill i ddod i Gymru i astudio. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i ateb y cwestiwn hwn.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith ymchwil ac arloesi i ffyniant Cymru. Mae perygl y gallai Cymru ddisgyn y tu ôl i Loegr a'r Alban wrth ariannu'r gweithgareddau hyn mewn sector sy'n gystadleuol iawn. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ariannu'r argymhellion a wnaed gan yr Athro Reid yn ei adolygiad."

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach (PDF, 768 KB)