#NabodEichAC – Y Cynulliad Cenedlaethol yn nigwyddiad Pride Cymru

Cyhoeddwyd 09/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2016

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn nigwyddiad Pride Cymru eleni fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i gynnwys cymunedau amrywiol a chymunedau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn ei waith.

Fel rhan o'r ymgyrch #NabodEichAC, bydd bws y Cynulliad yn bresennol ar Gae Cooper yng Nghaerdydd, gyda'r nod o roi cyfle i ymwelwyr gael gwybodaeth am eu Haelodau Cynulliad. Mae miloedd o bobl wedi dysgu mwy am bwy sy'n eu cynrychioli yn y Senedd drwy'r ymgyrch hon.

Yn ogystal â'r ffaith y bydd baneri'r enfys yn cael eu codi ar draws yr ystâd, bydd Aelodau a chynghreiriaid rhwydwaith LGBT y Cynulliad, sef OUT-NAW, yn ymuno â'r orymdaith carnifal drwy Gaerdydd, a bydd y Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau'r enfys drwy gydol y penwythnos.

Yn ddiweddar, cododd y Cynulliad Cenedlaethol i'r trydydd safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn y DU. Yn ogystal, y Cynulliad yw'r cyflogwr gorau ar gyfer staff LGBT yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Rwy'n falch iawn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol unwaith eto yn cael ei gynrychioli yn nigwyddiad Pride Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb sy'n cymryd rhan eleni yn mwynhau dathlu'r amrywiaeth sydd ynghlwm wrth y digwyddiad hwn.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a'i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl sydd â chefndiroedd amrywiol rhyngweithio ag ef yn hawdd ac mewn modd ystyrlon.

"Mae cynnwys cymunedau amrywiol yng ngwaith y Cynulliad yn ymrwymiad pwysig inni gan ein bod o'r farn y gall cael mwy o leisiau ond gyfrannu at sicrhau bod gennym ddeddfwrfa sy'n well, sy'n fwy cyflawn, ac sydd wir yn cynrychioli holl bobl Cymru.

"Mae'n ddyletswydd arnom, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i rannu ein profiadau, gan sicrhau bod ein gwerthoedd o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a'u harfer gan bawb.

"Mae'r faith ein bod wedi esgyn i'r trydydd safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, a'r ffaith mai ni yw'r cyflogwr gorau y sector cyhoeddus yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, hefyd yn destun balchder inni, ac yn cadarnhau ein cred y dylem barhau i hyrwyddo ac annog cydraddoldeb yn y gweithle."

Bydd digwyddiad Pride Cymru yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 13 Awst ar Gae Cooper yng Nghaerdydd.

Ar yr un diwrnod, bydd tîm rygbi'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd rhan ym mhencampwriaeth saith bob ochr Enfys—pencampwriaeth sy'n gyfeillgar i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol—ar Gae Blackweir, sydd gerllaw.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgymryd â'r gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn lle sy'n fwy cyfeillgar i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol weithio:

  • Rydym wedi gwella cyfleusterau traws-gynhwysol ar gyfer ymwelwyr a staff, ac mae toiledau niwtral o ran rhyw wedi'u cyflwyno yn y Senedd, y Pierhead a Thŷ Hywel;

 

  • Mae ein Bws Allgymorth yn ymweld â digwyddiad Pride Cymru a Swansea Sparkle yn rheolaidd er mwyn ymgysylltu â'r gymuned LGBT ac annog ymgysylltiad democrataidd;

 

  • Rydym wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu cydraddoldeb LGBT ac i ddangos ein hymrwymiad i Fis Hanes LGBT, Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia a Diwrnod Gwelededd Deurywiol;

 

  • Mae gennym gynllun Cynghreiriaid LGBT, lle gall staff nad ydynt yn LGBT ddangos eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT;

 

  • Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy ein polisïau staff cynhwysol, ein hyfforddiant penodol ar gyfer staff LGBT a'n sesiynau codi ymwybyddiaeth;

 

  • Mae gennym uwch-hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch-gynghreiriaid sy'n hybu cydraddoldeb yn fewnol ac yn allanol.