National Assembly Member at the heart of the debate on EU’s jobs and growth strategy

Cyhoeddwyd 21/09/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhan ganolog o’r ddadl ar strategaeth dwf a swyddi’r Undeb Ewropeaidd

Mae Christine Chapman AC wedi anfon neges glir at y Comisiwn Ewropeaidd newydd mewn papur sy’n nodi'r hyn y mae hi’n credu y dylai bod yn brif amcanion strategaeth economaidd yr UE.

Cyhoeddir y papur wrth i’r cyfnod o ddeng mlynedd ar gyfer rhoi ‘Strategaeth Lisbon’ ar waith – cynllun gweithredu arloesol ar gyfer twf economaidd yr UE – ddod i ben ac wrth i’r strategaeth olynol gael ei thrafod.

Ym mis Chwefror, dewiswyd yr Aelod Cynulliad i fod yn rapporteur Pwyllgor y Rhanbarthau ar y mater hwn, i sicrhau bod gan gynrychiolwyr llywodraeth leol a rhanbarthol gyfle i ddweud eu dweud cyn i Benaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau’r UE (gan gynnwys Prif Weinidog y DU) gyfarfod yng ngwanwyn 2010 i gytuno ar ddyfodol Strategaeth Lisbon.

Mae ei phapur yn cynnig ‘strategaeth Ewrop gynaliadwy’, yn seiliedig ar y cynsail bod adnoddau’r byd yn gyfyngedig a bod yna gost i dwf economaidd.

Mae’n amlinellu’r rhaniad cymdeithasol cynyddol yn Ewrop a’r angen felly am bolisi cymdeithasol adnewyddadwy ac wedi’i ail-fywiocau.

Mae bron i ddeng mlynedd ers i Strategaeth Lisbon gael ei chytuno am y tro cyntaf yn 2000 - ac mae’n rhannu ei phen-blwydd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y sefydliad yr wyf yn ei gynrychioli ar Bwyllgor y Rhanbarthau,” meddai Christine Chapman AC.

Mae consensws cryf y dylai Strategaeth Lisbon gael olynydd a’i bod yn ychwanegu gwerth ar lefel yr UE, ond mae yna hefyd deimlad y dylai strategaeth y dyfodol fod yn wahanol.

Mae’n rhaid i ni symud tuag at ffordd fwy cynaliadwy o fyw, a mynd i’r afael â’r lefelau cynyddol o anghydraddoldeb a thlodi sy’n parhau ar draws Ewrop. Mae’r materion hyn yn uniongyrchol berthnasol i Gymru, ac roeddwn yn falch o gynnwys enghreifftiau o’r camau yr ydym yn eu cymryd yng Nghymru i fynd i’r afael â’r materion hyn yn y papur”.

Cafodd adroddiad Mrs Chapman ei dderbyn yn ffurfiol gan gomisiwn polisi economaidd a chymdeithasol Pwyllgor y Rhanbarthau yng ngwlad Pwyl ar 14 Medi. Disgwylir i holl aelodau Pwyllgor y Rhanbarthau ei gymeradwyo pan gaiff ei roi gerbron y cyfarfod llawn ym Mrwsel ym mis Rhagfyr.

Amserwyd hyn i gyd-fynd â chyhoeddi cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dyfodol Strategaeth Lisbon ar ddechrau 2010, a fydd yn sail i’r trafodaethau ymysg Aelod-wladwriaethau’r UE yn Uwch-gynhadledd y Gwanwyn a gynhelir ym mis Mawrth.

Dyma’r tro cyntaf ers 2003 i un o Aelodau’r Cynulliad gael cais i ymgymryd â rôl mor fawreddog, pan ddewisiwyd Rosemary Butler, yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd, i fod y Rapporteur ar gynigion ar gyfer dyfodol Cynllun Diwylliant yr UE.