​Newid enw’r Cynulliad i adlewyrchu cynnydd mewn pwerau a statws – cyfle i ddweud eich dweud

Cyhoeddwyd 08/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn i bobl Cymru sut gellid newid ei enw i adlewyrchu ei rôl a’r cynnydd yn ei gyfrifoldebau. Ers sefydlu’r Cynulliad drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, cafwyd dwy Ddeddf Seneddol arall. Bellach, mae’n ddeddfwrfa genedlaethol, gyda’r pŵer i basio cyfreithiau a chytuno ar drethi. Mae’n dwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei holl benderfyniadau a’i defnydd o gyllideb o £15 biliwn y flwyddyn, ynghyd â bod yn ganolbwynt i’r ddadl ddemocrataidd genedlaethol yng Nghymru ar y materion cyfoes pwysicaf.

Os caiff Bil Cymru sydd gerbron Senedd y DU ei phasio, bydd yn gwneud newidiadau pellach i’r setliad datganoli ac yn rhoi rheolaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol dros ei drefniadau ei hun – gan gynnwys y pŵer i newid ei enw.

Ym mis Gorffennaf eleni, cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol yn unfrydol “dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol”.

Heddiw (8 Rhagfyr), lansiodd y Llywydd, Elin Jones AC, ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn i bobl Cymru pa enw a fyddai’n adlewyrchu rôl y Cynulliad orau: “Senedd” neu “Cynulliad”. 
 
“Mae’r ffaith bod datganoli yng Nghymru yn symud mor gyflym yn golygu nad yw’r cyhoedd bob amser yn gwybod beth yw rôl y Cynulliad na’r materion y mae ganddo gyfrifoldeb drostynt,” meddai’r Llywydd.

“Mae’r niferoedd sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, arolygon cyhoeddus a gwybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy ein gwaith ymgysylltu yn dangos nad oes llawer yn deall beth y mae’r Cynulliad yn ei wneud a beth yn union yw ei bwerau.

"Mae’r Cynulliad yn cynnal cyfres o raglenni ymgysylltu i gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chyfranogiad. Rydyn ni’n siarad â miloedd o bobl bob blwyddyn drwy fynd allan i weld ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol, drwy bresenoldeb yn nigwyddiadau diwylliannol mawr y wlad, a thrwy wahodd pobl i’r Senedd a’r Pierhead ar gyfer digwyddiadau, teithiau ac ymweliadau.

“Er gwaetha’r ymdrechion hyn, rydyn ni’n gwybod nad yw pobl Cymru yn llwyr ddeall rôl a phwerau’r Cynulliad ar hyn o bryd. Felly mae’n amlwg i fi bod angen gwneud rhagor i helpu pobl i ddeall rôl y Cynulliad fel sefydliad democrataidd cenedlaethol a sut y mae’n wahanol i Lywodraeth Cymru.

“Rwyf eisiau i’r sefydliad hwn ennyn hyder, ymddiriedaeth a balchder yn y bobl y mae’n eu gwasanaethu. Ni fydd hyn yn digwydd drwy newid enw yn unig, ond rwy’n credu y bydd yn chwarae rhan bwysig. Rwy’n falch iawn felly o gael lansio’r ymgynghoriad hwn i glywed eich barn ar enw eich Cynulliad neu eich Senedd yn y dyfodol.”
 
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i cynulliad.cymru/enw. Gallwch hefyd ffonio llinell wybodaeth y Cynulliad, ar 0300 200 6565, a gofyn am gael copi o’r ymgynghoriad trwy’r post.