Newid enw un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Newid enw un o bwyllgorau’r Cynulliad

Mae enw newydd wedi cael ei roi ar Bwyllgor Is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol.

Diben newid yr enw yw adlewyrchu’r gwaith eang y mae’r Pwyllgor yn ei wneud yn y trydydd Cynulliad a’r angen i gydnabod ei gylch gwaith ehangach yn ei deitl.  

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae sawl newid wedi bod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae cylch gwaith y Cynulliad wedi’i ehangu’n sylweddol oherwydd hynny.

“Mae rôl y Pwyllgor bellach yn cynnwys llawer mwy na dim ond craffu’n dechnegol ar is-ddeddfwriaeth – mae’n edrych ar rinweddau’r cyfreithiau hyn, ar unrhyw faterion o ran polisi cyhoeddus a allai ddeillio ohonynt, ac ar amryw o faterion eraill.

“Dyma’r unig un o bwyllgorau’r Cynulliad sydd mewn sefyllfa i edrych mewn ffordd eang ar ddatblygu cymhwysedd cyfreithiol y Cynulliad Cenedlaethol ac ar sut y mae’n cael ei bwerau. Mewn gair, mae’r Pwyllgor yn edrych ar Gyfansoddiad Cymru.  

“Gan ystyried hyn i gyd, derbyniwyd yn gyffredinol nad oedd hen enw’r Pwyllgor yn adlewyrchu ei gylch gwaith newydd yn ddigonol.  

“Rwy’n falch iawn, felly, fod y Cynulliad wedi cytuno ar enw newydd i’r Pwyllgor, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol.”