Newid trothwy dadleuon deisebau

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020

O ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws - yn ogystal â gwefan deisebau newydd  – bu cynnydd digynsail yn nifer y deisebau mae’r Senedd wedi ei dderbyn yn y misoedd diwethaf, gan gynnwys rhai sydd wedi llwyddo i gasglu nifer fawr o lofnodion.  

Oherwydd hyn, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi penderfynu cynyddu’r trothwy ar gyfer ystyried cyfeirio deisebau ar gyfer dadl at fwy na 10,000 o lofnodion ar gyfer pob deiseb sy'n cau ar ôl 1 Rhagfyr 2020.  

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders AS;  

“Fe wnaed y penderfyniad ar ôl ystyriaeth ofalus am fod yr amser ar gyfer cynnal dadleuon yn y Cyfarfod Llawn yn brin, yn enwedig yn ystod y pandemig pan mae busnes brys yn cael ei flaenoriaethu ac etholiadau’r Senedd ar y gorwel yn 2021. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n amhosib i'r Pwyllgor gwrdd â’r galw am ddadleuon ar hyn o bryd.  

Hyd yn hyn, yn ystod 2020, mae 31 deiseb wedi casglu mwy na’r trothwy blaenorol o 5,000 llofnod, sy'n lawer mwy na sy'n bosib eu cynnwys ar gyfer dadl yn amserlen y Cyfarfod Llawn. Yn ystod tymor yr hydref yn unig mae'r Pwyllgor Deisebau eisoes wedi gofyn am 4 dadl yn y Senedd.  

“Felly, rydym wedi penderfynu newid y trothwy er mwyn gosod disgwyliadau cliriach i bobl sy’n defnyddio’r drefn ddeisebau ynghylch y nifer o ddadleuon deisebau y mae'r Senedd yn gallu ei gynnal. Rydym yn bwriadu adolygu’r newid yn ystod y misoedd sydd i ddod a chyflwyno argymhellion addas ar y drefn ddeisebau yn y Senedd nesaf.  

“Mae hefyd yn bwysig pwysleisio fod yna nifer o ffyrdd effeithiol o drafod deisebau, heblaw cynnal dadl yn y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn parhau i weithio'n galed i ystyried a chraffu ar bob deiseb gyda mwy na 50 o lofnodion, gan gynnwys sicrhau eu bod yn derbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru. Mi fydd y Pwyllgor hefyd yn parhau gyda’u gwaith craffu manwl ar nifer o’r materion sy’n cael eu codi mewn deisebau. Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar fwyafrif helaeth y deisebau sydd wedi eu derbyn ac rydym wedi cysylltu â’r holl ddeisebwyr cyfredol yr effeithiwyd arnynt er mwyn trafod yr opsiynau, lle bo hynny'n briodol.  

Mae miloedd lawer o bobl wedi cael eu hysbrydoli gan ddigwyddiadau diweddar i ymgysylltu â ni, a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae’n gyffrous iawn bod ein system ddeisebau yn gweithio cystal a’n bod ni wedi derbyn - ers i ni ei hailwampio ym mis Mai - tua 420,000 o lofnodion i’r deisebau.