Newidiadau treth incwm ar y trywydd iawn ond un o bwyllgorau'r Cynulliad yn poeni am ddiffyg ymwybyddiaeth

Cyhoeddwyd 28/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2019

​Bydd y ffordd y caiff y dreth incwm ei osod yng Nghymru ei newid ddechrau mis nesaf ond nid oes digon o bobl yn ymwybodol o hynny, yn ôl Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

O dan Ddeddf Cymru 2014 mae Llywodraeth y DU wedi gostwng Treth Incwm ar gyfer trethdalwyr yng Nghymru, sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru osod Cyfraddau Trethi Incwm Penodol i Gymru, gan olygu y bydd rhywfaint o'r refeniw a godir drwy dreth incwm yn mynd yn uniongyrchol at Lywodraeth Cymru. Mae arolwg ar-lein a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn dangos nad oedd bron i draean y bobl a ymatebodd yn ymwybodol o'r newidiadau a ddaw i rym ar 6 Ebrill.

Er bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, mae'r Pwyllgor yn dal i bryderu nad yw rhai trethdalwyr yng Nghymru wedi clywed yr neges hon.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld cynnydd sylweddol mewn datganoli cyllidol yng Nghymru, ac rydym yn teimlo ei bod yn bwysig cydnabod bod y broses wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan," meddai Llŷr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Rydym yn cydnabod yn arbennig fod y broses effeithiol o sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn ffactor allweddol yn y llwyddiant hwn.

"Mae cyflwyno cyfraddau trethi incwm penodol i Gymru yn cynrychioli cynnydd sylweddol yn y gyfran o drethi a delir gan drethdalwyr yng Nghymru ac y penderfynir arnynt yng Nghymru.

"Ond rydym yn pryderu o glywed y dystiolaeth, gan gynnwys adborth o etholaethau ac arolwg dangosol y Pwyllgor ei hun, a oedd yn awgrymu bod cyfran siomedig o uchel o'r boblogaeth nad ydynt yn ymwybodol o'r cyfraddau treth incwm sydd ar fin dod i rym yng Nghymru."

Roedd y Pwyllgor hefyd yn siomedig bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, wedi gwrthod dod i roi tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Mae casglu treth incwm yn parhau'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU, er hynny, ysgrifennodd Mr Cairns at y Pwyllgor i ddweud:

"Credaf ei bod yn briodol bod eich pwyllgor yn craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol [sic] yn ffurfiol mewn perthynas â'r materion hyn o ystyried y llinellau atebolrwydd priodol."

Dywedodd Mr Gruffydd AC:

"Mae'r Pwyllgor yn siomedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol am ei anallu parhaus i gysylltu â'r Pwyllgor ar y pwnc hwn. 

"Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol mai Llywodraeth Cymru sy'n atebol.  Fodd bynnag, mae Treth Incwm yn parhau i fod yn dreth y DU (er bod cyfraddau penodol i Gymru), felly, mae'n briodol fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ateb cwestiynau ynghylch y broses weithredu. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig cwrdd â phob aelod o'r Pwyllgor yn unigol, ond ry' ni o'r farn fod angen i'r broses archwilio fod yn agored a thryloyw."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud pedwar argymhelliad yn ei adroddiad:

  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru yn rhoi diweddariadau blynyddol ynghylch cynllunio eu gweithlu a'r camau sy'n cael eu cymryd i gadw gwybodaeth a phrofiad o fewn y sefydliad. 
  •  Byddai'r Pwyllgor yn croesawu'r diweddariadau blynyddol hyn hyd nes y penodir Prif Weithredwr parhaol;
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariadau ynghylch y costau terfynol yn sgil datgymhwyso Treth Dir y Dreth Stamp a'i chostau cysylltiedig yng Nghymru;
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ynghylch y gwerthusiad ffurfiol a wneir o'r gweithgarwch cyfathrebu a gafwyd cyn i Gyfraddau Treth Incwm Cymru ddod i rym; ac,
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn rhoi diweddariad ynghylch y costau yn sgil dod â Chyfraddau Treth Incwm Cymru i rym, gan gynnwys diweddariad ar weithredu a chadarnhau ffioedd costau gweithredu blynyddol CThEM.

Nawr, bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.