Ni ddylai Ffermwyr Cymru gael eu gadael yn nhir neb tra bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn cael eu diwygio

Cyhoeddwyd 02/02/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ni ddylai Ffermwyr Cymru gael eu gadael yn nhir neb tra bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn cael eu diwygio

Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod trefniadau pontio ar waith cyn symud ymlaen ag unrhyw gynlluniau i ddiwygio’i gynlluniau amaeth-amgylcheddol a rheoli tir.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn adolygu’r ffordd y mae’n gweithredu cynlluniau fel Tir Gofal a Tir Mynydd oherwydd eu bod wedi methu cyflawni’u hamcanion amgylcheddol fel gwella cynlluniau rheoli llifogydd ac ansawdd dwr.  

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod hyn ac yn cefnogi diwygiad ond mae am gael sicrwydd na fydd ffermwyr yn dioddef yn ystod unrhyw gyfnod pontio.  

“Credwn y byddai unrhyw newid mawr i’r trefniadau presennol yn achosi  aflonyddwch difrifol i ffermwyr, yn enwedig ar yr ucheldir,” meddai Alun Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Felly mae aelodau am weld cyfnod arwain sylweddol at unrhyw newidiadau o’r fath.

“Hoffem weld Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi mesurau ar waith i wella gallu’r cynllun Tir Mynydd i gyflawni yn erbyn canlyniadau amgylcheddol.”

Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y canlynol:

  • Dylid gwneud rhai newidiadau i Tir Gofal er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn hefyd yn cyflawni yn erbyn targedau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Dylid targedu unrhyw arian a all fod ar gael yn y dyfodol o ganlyniad i derfyniad Tir Cynnal, tuag at wireddu gwelliannau o dan y cynllun Tir Gofal neu i ymchwilio i gynlluniau peilot.

  • Dylai cynlluniau geisio darparu canlyniadau adnabyddadwy sy’n darparu nwyddau cyhoeddus mesuradwy.