Plant

Plant

Ni fu hawliau plant yng Nghymru erioed yn bwysicach

Cyhoeddwyd 11/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'n hanfodol bod hawliau plant yn cael eu gwarchod yng Nghymru, nawr yn fwy nag erioed, yn ystod pandemig y Coronafeirws, yn ôl Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Mae wedi bod yn trafod hynt Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011; cyfraith a basiwyd bron degawd yn ôl gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd.

Wedi'i hystyried ei bod yn torri tir newydd ar y pryd, roedd y gyfraith hon yn golygu y bu’n rhaid ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) fel rhan o benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru – ynghylch iechyd plant, addysg, yr amgylchedd a phwerau eraill a ddatganolwyd i Gymru.

Mae Covid-19 a mesurau’r cyfyngiadau symud a ddilynodd hynny wedi cael effaith ar lawer o hawliau plant yn gyflym, gan gynnwys yr hawl i addysg, eu hawl i chwarae, a chyfyngiad ar gyswllt â ffrindiau a theulu i blant sydd wedi bod mewn gofal.

Dywedodd Lynne Neagle AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y canlynol:

“Mae ein gwaith craffu diweddar ar effaith y coronafeirws ar blant a phobl ifanc wedi ein harwain i ddod i’r casgliad bod sicrhau hawliau plant a phobl ifanc yn gorfod bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, nawr yn fwy nag erioed. Mae’n rhaid iddo fod yn ganolog wrth wneud penderfyniadau ac mae’n rhaid i’r dystiolaeth dros hynny fod yn llawer mwy tryloyw.”

Wrth edrych yn ôl ar y sefyllfa ers 2011, canfu adroddiad y Pwyllgor nad yw Llywodraeth Cymru bob amser wedi sicrhau bod hawliau plant wedi cael dylanwad uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael a'r penderfyniadau y mae cyrff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn eu gwneud.

Hefyd, canfu fod llawer mwy i'w wneud i’r gyfraith hon weithio'n iawn a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar hyn o'r newydd.

Mewn 45 o sesiynau adborth yn cynnwys mwy nag 800 o blant a phobl ifanc ar draws Cymru, gwnaethant ddweud wrth y Pwyllgor pa mor bwysig yw eu hawliau iddynt. Roedd cael addysg dda, iechyd corfforol, iechyd meddwl a theimlo'n ddiogel gartref ac yn yr ardal lle roeddent yn byw ar frig y rhestr. Roedd teimlo bod pobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt yn gwrando arnynt a chael eu parchu gan eraill hefyd yn hawliau hanfodol.

Roedd rhai pobl ifanc yn gwybod beth oedd eu hawliau, ond canfu'r Pwyllgor fod bylchau yn y wybodaeth am hawliau plant ymhlith plant ac oedolion. Dywedodd fod hyn yn atal y gyfraith rhag cyflawni ei photensial llawn ac mae am i Lywodraeth Cymru gael strategaeth codi ymwybyddiaeth genedlaethol i wella'r sefyllfa hon.

"Mae yna ddiffyg cyfeiriad at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol, a dim digon o dystiolaeth bod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu hystyried a’u harfer ar draws Llywodraeth Cymru gyfan."

— Lynne Neagle AS

Llywodraeth Cymru

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor fod y gyfraith wedi dylanwadu ar lu o bolisïau a phenderfyniadau, gan gynnwys trechu tlodi plant, y newid yn y gyfraith ar gosb gorfforol plant a’r cymorth a roddir i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ond dywedwyd wrth y Pwyllgor, hefyd, am bolisïau a gwasanaethau lle na chafodd y gyfraith newydd hon effaith, gan gynnwys:

  • A yw plant a phobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen
  • Argaeledd lleoliadau gofal: lleoliadau gofal maeth a rhai diogel
  • Pryderon bod gwybodaeth gyfyngedig am achosion hiliol mewn ysgolion a disgyblion sy'n cael eu gwahardd oherwydd hyn
  • Diffyg gallu pobl ifanc i gael mynediad at wasanaethau ieuenctid oherwydd eu bod yn cael eu cau
  • Cyfraddau tlodi plant

Canfu'r Pwyllgor fod y gyfraith a hawliau plant yn cael eu hystyried yn rhy hwyr wrth benderfynu ar bolisi neu sut i wario arian Llywodraeth Cymru. Mae am i bethau fod yn llawer cliriach o ran sut y mae gweinidogion y llywodraeth yn ystyried y gyfraith ar hawliau plant.

Dywedodd Lynne Neagle AS y canlynol:

Mae’n hymchwiliad ar hawliau plant wedi’n harwain i’r casgliad bod yna gynnydd i’w wneud o hyd. Clywsom rwystredigaeth glir gan randdeiliaid ynglŷn â chyflymder y Mesur wrth ddylanwadu ar bolisi a gwariant.

“Mae yna ddiffyg cyfeiriad at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol, a dim digon o dystiolaeth bod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu hystyried a’u harfer ar draws Llywodraeth Cymru gyfan.

Mae hyn yn dangos i ni nad yw hawliau plant yn sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn unol â bwriad y ddeddfwriaeth.”

Dywedodd Helen Dale o Lleisiau Bach y canlynol:

“Mae Lleisiau Bach yn croesawu ymchwiliad y pwyllgor. Mae clywed lleisiau plant yn hanfodol wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru yn y dyfodol ac rydym yn falch bod Lleisiau Bach wedi galluogi'r plant ifancaf i gymryd rhan yn y broses.

“Mae cymaint wedi'i ‘wneud i’ fywydau dyddiol a chyfleoedd bywyd plant ers Covid-19 ac mae'n hanfodol i'r pwyllgor barhau â’r archwiliad, a’i gyflymu, i'r ffordd y bydd ymatebion Covid-19 yn cydymffurfio â deddfwriaeth, rhwymedigaethau ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar hawliau'r plentyn yng Nghymru.”

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, y canlynol:

“Ni fu erioed angen mwy i ganolbwyntio ar hawliau dynol plant, wrth i Gymru weithio drwy effaith y pandemig dinistriol hwn.

“Mae'r argymhellion rhesymol ac adeiladol hyn, y mae pob un ohonynt yn ymateb yn uniongyrchol i'r pryderon a godais gyda'r Pwyllgor, yn darparu map clir i'r Llywodraeth roi hawliau dynol plant wrth wraidd yr holl benderfyniadau.

“Byddwn yn annog y Llywodraeth i’w derbyn a’u gweithredu’n ddi-oed.”

Mae'r pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad a fydd, bellach, yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn cael ei drafod yn y Senedd ar 20 Ionawr 2021.