Rhaid i hawliau plant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth iddi gynllunio ar gyfer adferiad y wlad ar ôl pandemig COVID-19.
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn ofni bod perygl y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl yn sgil effeithiau COVID-19 ar lesiant, addysg ac iechyd meddwl, yn enwedig ar y rheini sydd fwyaf agored i niwed.
Trwy gydol yr argyfwng COVID-19, mae'r Pwyllgor wedi archwilio i effaith y feirws ar blant a phobl ifanc, ac wedi canolbwyntio ei ymdrechion yn ystod y cyfyngiadau symud ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig, gan roi sylw i dri phrif faes:
- trefniadau sy’n sicrhau fod plant a phobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg a gofal;
- effaith COVID-19 ar blant sy'n agored i niwed;
- effaith COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc; ac
- effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach
Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu'n rheolaidd at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at feysydd sy’n peri pryder, ac i ofyn am fwy o eglurder ar ei waith a'i gynlluniau.
Mae’r holl ohebiaeth bellach wedi’i chyhoeddi mewn adroddiad interim ac yn manylu ar waith craffu’r Pwyllgor ac ymatebion Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, a bydd y materion yn cael eu trafod gan yr holl Aelodau o’r Senedd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 15 Gorffennaf.
“Rhaid i’w hawliau fod yn flaenoriaeth os yw adferiad i fod yn llwyddiant”
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle AS, mae blaenoriaethu hawliau plant a phobl ifanc yn hanfodol i lwyddiant y cynllun adfer ar ôl COVID-19:
“Nid oes fawr o amheuaeth fod effeithiau ehangach COVID-19 – a’r mesurau a gymerwyd i’w reoli – wedi effeithio cryn dipyn ar fywydau plant a phobl ifanc. Does gan blant ddim pleidlais, does ganddyn nhw ddim undeb llafur ac maen nhw wedi bod yn gudd, i raddau helaeth, yn ystod yr argyfwng hwn. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn uchel ac yn glir.
“Er gwaethaf ymdrechion arwrol ein gwasanaethau cyhoeddus, mae’r pandemig wedi tarfu ar addysg plant a phobl ifanc. Mae’r cyfyngiadau yn golygu eu bod nhw wedi treulio llai o amser yng nghwmni teulu a ffrindiau, ac wedi rhoi stop ar allu mynychu’r clybiau a’r gweithgareddau maen nhw yn eu mwynhau. Mi fydd rhai wedi colli rhywun sy'n annwyl iddyn nhw, tra bydd eraill yn teimlo’n bryderus am COVID-19 a’r sôn am y miloedd o bobl sydd wedi marw.
“Mae’r cyfyngiadau ar allu treulio amser tu allan ac ymarfer corff wedi effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant, ac wedi cynyddu’r risg i’r rheini sy’n fwy agored i niwed. At hynny, rydym wedi clywed bod yr unigrwydd a'r teimlad o fod wedi ynysu yn sgil y mesurau diweddar wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.
“Fe wnaeth paediatregydd blaenllaw ddisgrifio profiad plant a phobl ifanc o effeithiau COVID-19 fel “collateral damage”, ac mi fyddwn ni’n gwneud popeth posib er mwyn sicrhau fod yr effeithiau yma yn cael sylw brys er mwyn lleihau’r niwed.
“Yn ystod ein hymchwiliad hyd yn hyn, rydym wedi clywed tystiolaeth gan blant a phobl ifanc am effaith COVID-19 ar eu bywydau, yn ogystal â chlywed gan arbenigwyr a sefydliadau sy’n darparu cefnogaeth ar eu cyfer.
“Mae wedi ein gadael heb unrhyw amheuaeth na allwn fforddio anwybyddu effaith y pandemig ar eu llesiant, na’i effaith ar eu rhagolygon o ran addysg a thu hwnt.
“Fel Pwyllgor, rydym yn awyddus i sicrhau nad yw hawliau plant yn cael eu diystyru yn ystod y broses o reoli'r pandemig hwn, nac yn ystod ein gwaith craffu yn y Senedd. Rhaid i’w hawliau nhw fod yn flaenoriaeth os yw unrhyw gynlluniau ar gyfer adferiad ar ôl COVID-19 i fod yn llwyddiant.”
Casglu tystiolaeth gan arbenigwyr, plant a phobl ifanc
Yn ogystal â chraffu ar Weinidogion Addysg, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, mae'r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar gan gyrff ac arbenigwyr eraill yn y maes. Mae'r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd lleol, ymarferwyr iechyd ac iechyd meddwl, yn ogystal ag elusennau plant a'r sector addysg – prifysgolion, colegau, Cymwysterau Cymru ac undebau.
Cafodd pobl a phlant wahoddiad drwy ymgynghoriad agored i rannu eu profiadau o COVID-19 gyda’r Pwyllgor. Roedd cyfleoedd hefyd i blant a phobl ifanc gyflwyno cwestiynau i'r Pwyllgor eu gofyn yn rhan o’u gwaith yn casglu tystiolaeth a chraffu ar Weinidogion y Llywodraeth.
Mae modd darllen adroddiad interim y Pwyllgor ar Effaith COVID-19 ar Blant a Phobl Ifanc yma
Mi fydd y materion yn cael eu trafod gan yr holl Aelodau o’r Senedd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 15 Gorffennaf. Gallwch wylio’r cyfarfod ar Senedd.tv