NODYN I’R DYDDIADUR: Prif Weinidog Cymru yn Aberystwyth

Cyhoeddwyd 19/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bydd twristiaeth ar yr agenda wrth i Bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, holi ynghylch dull Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r sector yng Nghymru.

Pryd a ble?

11.00 – 13.00, 6 Gorffennaf, yr Hen Goleg, Aberystwyth neu gallwch wylio'n fyw ar-lein drwy Senedd.TV.

Beth fydd y Pwyllgor yn ei drafod?

Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar gyflwr presennol y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi a'i ddatblygu.

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn bwriadu edrych ar y canlynol:

Yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, mae un o bob saith swydd yng Nghymru yn ymwneud â thwristiaeth, ac yn rhai ardaloedd o Gymru, twristiaeth yw'r prif economi. Mae 18,000 o fusnesau yn y diwydiant wedi'u rhannu ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn rhai bach a chanolig a nifer yn rhai teuluol.

O Brydain Fawr yn unig, gwnaed 9 miliwn o deithiau dros nos i Gymru yn 2017, tra yn yr un flwyddyn roedd bron i 100 miliwn o ymweliadau Diwrnod Twristiaeth yn gyffredinol, gan greu £4,332 miliwn.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog:

"Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac mae ein gallu i farchnata'r wlad i ymwelwyr y tu hwnt i'n ffiniau ni yn rhan hollbwysig yng ngoroesiad a datblygiad y sector.

"I lawer o fusnesau a phobl yn Aberystwyth, Ceredigion ac ar draws Cymru, mae’r cyfarfod hwn yn rhoi cyfle inni ofyn i'r Prif Weinidog am ei strategaeth dwristiaeth, y data perfformiad twristiaeth diweddaraf ac effaith bosibl Brexit ar y sector."

Bydd Aelodau'r Pwyllgor yn cael cyfle hefyd i holi'r Prif Weinidog ar faterion cyfoes eraill yn ystod y cyfarfod.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno mynychu'r cyfarfod gysylltu â llinell gyswllt Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 6565 neu e-bostiwch contact@assembly.wales.