Oedi 'cwbl annerbyniol' o ran gwella maeth cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/03/2017

​Mae pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol wedi disgrifio oedi 'cwbl annerbyniol' wrth weithredu mesurau i wella maeth a hydradu mewn ysbytai ledled Cymru.

Nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddiffyg arweinyddiaeth ar y lefelau uchaf i egluro pam nad oedd argymhellion mewn adroddiad gan ei ragflaenydd yn 2011 yn dal heb gael eu gweithredu.

Dywedodd y Pwyllgor fod dull Cymru gyfan yn hanfodol o ran rhoi diet blasus a chytbwys o ran maeth i gleifion i helpu i gyflymu eu hadferiad wedi salwch neu anaf.

Ond canfu Aelodau na allent nodi un cyfarwyddwr ar fyrddau iechyd yng Nghymru oedd yn gyfrifol am sicrhau maeth a hydradu o ansawdd uchel i gleifion.

Roedd aelodau wedi'u cythruddo wrth glywed nad oedd nyrs arbenigol arweiniol wedi'i benodi gan GIG Cymru i sefydlu 'Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan', ac efallai na fyddai un yn cael ei benodi am dair blynedd arall.

Nododd yr aelodau y byddai hyn yn golygu byddai bron i ddegawd wedi mynd heibio ers i ragflaenydd y Pwyllgor wneud argymhelliad i'r perwyl hwnnw mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2011.

Byddai 'Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan' yn safoni'r dull o safbwynt maeth cleifion trwy ganolbwyntio ar eu hanghenion ar y pwynt mynediad, gan gymryd i ystyriaeth ffactorau megis gofynion dietegol a chredoau crefyddol.

Mae system TG Cymru gyfan i helpu i gefnogi'r llwybr yn dal heb gael ei chaffael. Unwaith eto, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod oedi wedi atal ei gyflawni, a bod nifer o fyrddau iechyd wedi creu eu hatebion eu hunain.

Gan barhau â'r thema o ddiffyg arweinyddiaeth, roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch y gwahaniaeth rhwng canlyniadau arolygon boddhad cleifion a gynhyrchwyd gan fyrddau iechyd Cymru, a phrofiadau mwy personol a roddir i ffrindiau, perthnasau a hyd yn oed Aelodau'r Cynulliad eu hunain. Maent yn awyddus i ddeall pam fod cymaint o wahaniaeth mewn barn.

Nodwyd hyfforddiant staff fel maes problematig i lawer o fyrddau iechyd. Er bod hyfforddiant mewn maeth cleifion yn cael ei ystyried yn orfodol, roedd llawer o staff nad oeddent wedi ymgymryd ag ef oherwydd diffyg cyfleoedd, pwysau amser neu flaenoriaethau eraill.

"Mae arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion yn elfen allweddol o ran sicrhau bod pobl yn cael gwellhad llwyr ac iach tra yn yr ysbyty," meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, pwysleisiodd y Prif Swyddog Nyrsio fod 'maeth a hydradu yn un o'r pethau hynny sydd, i fod yn onest, bron mor bwysig â'r feddyginiaeth y mae pobl yn ei derbyn'.

"Daethom o hyd i stori o ddiffyg amlwg ynghylch arweinyddiaeth, gweithgaredd disymud a chynnydd rhwystredig o araf mewn nifer o feysydd pwysig.

"Er bod rhai canlyniadau cadarnhaol, mae rhai elfennau allweddol o'r adroddiad gwreiddiol o 2011 yn dal heb gael eu rhoi ar waith.

"Mae'n gwbl annerbyniol y bydd bron i ddegawd wedi mynd heibio cyn i'r materion hyn gael eu datrys a bod cleifion yn derbyn y gwasanaethau prydau effeithlon ac effeithiol sy'n darparu elfennau sylfaenol bwyd blasus a maethlon a dŵr ar gyfer hydradu digonol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn gyhoeddus ganlyniadau arolygon cleifion Cymru gyfan yn y dyfodol mewn modd amserol;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu a rhoi ar waith y dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer cyflwyno hyfforddiant gan gynnwys ystyried e-ddysgu, a hyfforddiant grŵp;
  • Bod adolygiad o drefniadau cynllunio'r gweithlu o fewn Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cael ei wneud i sicrhau nad yw swyddi gwag neu fylchau o ran adnoddau yn y dyfodol yn achosi oedi sylweddol i ffrydiau gwaith allweddol; a
  • Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r targed ar gyfer lleihau gwastraff bwyd i herio'r byrddau iechyd i leihau gwastraff a gwneud y mwyaf o arbedion.

Darllenwch yr adroddiad