Pa mor effeithiol yw gwasanaethau orthodontig yng Nghymru? Dweud eich dweud
23 Gorffennaf 2010
Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad heddiw (22 Gorffennaf) i ofal orthodontig yng Nghymru ac mae’n galw am dystiolaeth gan bartïon sydd â diddordeb.
Nod yr ymchwiliad yw archwilio’r ddarpariaeth o ofal orthodontig yng Nghymru, gan gynnwys pa mor hygyrch ydyw i gleifion; pa mor gadarn yw’r broses o gydgysylltu triniaeth orthodontig rhwng darparwyr yng Nghymru; a pha mor effeithiol yw’r cydweithio rhwng practisau orthodonteg a Byrddau Iechyd Lleol.
Bydd hefyd yn archwilio rôl adrannau addysgu prifysgolion lleol mewn perthynas â sicrhau bod y gwasanaethau orthodontig a ddarperir o’r safon uchaf – yn benodol o ran ymdrin â’r cleifion sydd yn y system ar hyn o bryd sy’n aros am driniaeth – a diwallu anghenion cleifion yn y dyfodol.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Bydd hwn yn ymchwiliad pwysig a fydd yn archwilio nifer o faterion allweddol mewn perthynas ag orthodonteg, gan gynnwys rhestrau aros, nifer yr orthodeintyddion sy’n ymarfer, y driniaeth sydd ar gael yn y GIG a’r broses o fonitro triniaeth breifat.
“Byddai’r Pwyllgor yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y maes hwn neu ddiddordeb ynddo i gysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i’n helpu i gasglu gwybodaeth ar gyfer yr ymchwiliad pwysig hwn.”
Dylid anfon unrhyw gyflwyniadau at y Clerc yn Health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gov.uk neu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw gyflwyniadau gyrraedd erbyn dydd Gwener, 3 Medi fan bellaf.