Pa mor hygyrch yw gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru? Dweud eich dweud
21 Gorffennaf 2010
Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i hygyrchedd digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru ac yn galw am dystiolaeth gan bawb sydd â diddordeb.
Bydd y Pwyllgor yn archwilio meysydd fel lleoliadau daearyddol y canolfannau celfyddydol; yr amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd yn y canolfannau hynny; hygyrchedd a chyllid ac effaith cyllideb 2011-12 Llywodraeth Cymru ar y diwydiant yng Nghymru.
Bydd hefyd yn ystyried buddsoddiad presennol Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau i weld a yw wedi ehangu mynediad i ddigwyddiadau diwylliannol, a’r rôl y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu mynediad i’r sector.
Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, “Dylai pawb allu manteisio ar brofiadau diwylliannol o safon uchel, waeth lle maent yn byw na beth yw eu cefndir.
“Mae hwn yn ymchwiliad pwysig a fydd yn ceisio canfod a yw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y celfyddydau ac mewn diwylliant wedi cyflawni’r amcanion o ehangu mynediad i’n profiadau diwylliannol.
“Rydym yn ymwybodol y bydd yr hinsawdd economaidd bresennol yn rhoi pwysau ar gymorth ariannol i’r sector yn y dyfodol, felly mae gennym ddiddordeb, hefyd, mewn ystyried pa effaith y gallai hyn ei chael.
“Hoffai’r Pwyllgor annog unrhyw un sydd â dealltwriaeth neu ddiddordeb yn y maes hwn i gysylltu â’r Cynulliad Cenedlaethol i ddweud eu dweud fel y gall yr ymchwiliad hwn gael ei lunio a'i lywio gan y bobl sy’n adnabod y sector orau.”
Dylai pawb sydd â diddordeb yn hyn gyflwyno eu tystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 24 Medi 2010 i Community.Culture.comm@Wales.gov.uk neu drwy’r post at: Glerc y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Gellir gweld y cwestiynau penodol y mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn clywed atebion iddynt ar ei wefan: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-ccc-home.htm