Panel annibynnol a fydd yn pennu tâl a threuliau Aelodau’r Cynulliad gam yn nes wedi i’r Aelodau bleidleisio o’u blaid

Cyhoeddwyd 24/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Panel annibynnol a fydd yn pennu tâl a threuliau Aelodau’r Cynulliad gam yn nes wedi i’r Aelodau bleidleisio o’u blaid.

24 Mawrth 2010

Heddiw (24 Mawrth), pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid symud Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) ymlaen i’r cyfnod nesaf.

Bydd y Mesur, sef y Mesur cyntaf i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ei gynnig, yn sefydlu bwrdd taliadau newydd. Bydd y bwrdd yn annibynnol ar Aelodau’r Cynulliad a bydd yn gyfrifol am bennu tâl a lwfansau’r Aelodau yn y dyfodol.

Heddiw, cytunodd yr Aelodau ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, sy’n golygu y bydd y Mesur yn symud ymlaen at gyfnod nesaf y broses graffu.

Dywedodd yr Aelod a gyflwynodd y Mesur, sef Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Rydw i’n falch iawn bod Aelodau wedi rhoi cefnogaeth i egwyddorion y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth.”

“Bydd y Mesur yn arwain at system fwy agored a thryloyw ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.

“Bydd hyn yn dangos i etholwyr Cymru ein bod wedi ymrwymo i system deg a thryloyw, ac rwyf o’r farn y bydd hyn yn adfer ymddiriedaeth ymysg yr etholwyr yn dilyn yr holl gyhoeddusrwydd negyddol am system dâl San Steffan.

“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i’r afael ag ymddiriedaeth.

“Dylid cofio mai un o awgrymiadau’r Panel Annibynnol yw’r Mesur hwn. Cafodd y panel ei sefydlu i edrych ar y system o gymorth ariannol wyth mis cyn i’r problemau yn San Steffan ddod i’r amlwg.”

Bydd y Mesur yn destun craffu trylwyr gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1, a fydd hefyd yn ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r Mesur (sef Cyfnod 2 yn y broses ddeddfu), cyn i’r Cynulliad ystyried y Mesur yn derfynol yn ystod tymor yr haf (Cyfnod 3).