Papurau’r Senedd – y Llywydd yn cefnogi cynllun y Sefydliad Materion Cymreig i ehangu’r drafodaeth ar bolisïau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Papurau’r Senedd – y Llywydd yn cefnogi cynllun y Sefydliad Materion Cymreig i ehangu’r drafodaeth ar bolisïau yng Nghymru

22 Ionawr 2014

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu’r Sefydliad Materion Cymreig i’r Senedd ar 22 Ionawr, ar gyfer lansio “Papurau’r Senedd”.

Cyfres o bapurau trafod yw “Papurau’r Senedd”, sydd â’r nod o ysgogi trafodaeth ynghylch yr opsiynau o ran polisi yng Nghymru.

Bydd pob papur yn adlewyrchu profiad arbenigwyr ac ymarferwyr blaenllaw, a byddant yn cael eu lansio gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pan gynhelir trafodaethau panel dros amser cinio yn y Senedd.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Er mwyn i ddemocratiaeth fod yn effeithiol mae angen etholwyr yr ydym ni’n ymgysylltu â hwy, a chymdeithas sifil."

"Un o amcanion craidd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yw gwella ein hymgysylltiad â phobl Cymru.

"Hynny yw, rydym am greu amgylchedd sy’n annog diddordeb yng ngwaith y Cynulliad a sy’n hwyluso pobl i ymgysylltu â swyddogaethau deddfu, craffu a chynrychioli’r Cynulliad.

“Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn chwarae rôl bwysig ym mywyd dinesig Cymru o ran datblygu maes polisi cyhoeddus Cymru - a thrwy angori’r gyfres hon o bapurau trafod wrth galon Llywodraethiant Cymru, rydym yn pwysleisio’r rôl ganolog y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei chwarae’n awr i ddatblygu polisi cyhoeddus yng Nghymru, a chraffu arno.

“Credaf y dylai’r Senedd fod yn ganolbwynt ar gyfer dadl o'r fath ar bolisi, ac felly mae’n rhoi pleser o’r mwyaf i mi groesawu’r Sefydliad Materion Cymreig i’r Senedd, ac i gefnogi’r digwyddiad i lansio "Papurau’r Senedd.”

Caiff y papur cyntaf, “Gwasanaeth i’r Dinesydd yng Nghymru”, ei lansio yn ystafell briffio’r cyfyngau yn y Senedd am 12.30pm ddydd Mercher, 22 Ionawr.

Ysgrifennwyd y papur gan Andy Bevan, a bydd yn edrych ar yr heriau deuol sy’n gysylltiedig â diweithdra ymysg pobl ifanc a phoblogaeth sy’n heneiddio.

Dywedodd Lee Waters, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig: “Nod y gyfres Papurau’r Senedd yw ysgogi safbwyntiau a thrafodaethau newydd.

“Fel prif felin drafod annibynnol Cymru, cryfder y Sefydliad Materion Cymreig yw y gallwn fod yn gyfrwng rhwng arbenigwyr, ymarferwyr a rhai sy’n llunio polisïau.

“Drwy chwilio am syniadau newydd a chynorthwyo i amlinellu sut y byddai’r syniadau hynny’n gweithio’n ymarferol, gobeithio y gallwn helpu pob un o’r pleidiau gwleidyddol i ddatblygu cynigion a allai wneud gwahaniaeth.”