Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (y Bwrdd) wedi penderfynu (yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2021) rewi cyflogau Aelodau o'r Senedd am y flwyddyn ariannol nesaf yn sgil effaith economaidd pandemig Covid-19.
Heddiw (18 Mawrth 2021), mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi penderfyniad eithriadol ynghylch cyflogau Aelodau a deiliaid swyddi ychwanegol o ddechrau'r Chweched Senedd.
Mae'r penderfyniad eithriadol yn golygu y bydd cyflogau Aelodau o'r Senedd, a gafodd eu rhewi gan y Bwrdd yn 2020-21, hefyd yn cael eu rhewi ym mlwyddyn gyntaf y Chweched Senedd (2021-22) ac am weddill tymor cyfredol y Senedd (2020-21). Mae hefyd yn golygu y bydd newidiadau i gynyddu cyflogau yn y dyfodol yn ddarostyngedig i uchafswm o dri y cant.
Oherwydd difrifoldeb effaith economaidd barhaus y pandemig a gwrthwynebiad yr Aelodau, daeth y Bwrdd i'r casgliad y byddai unrhyw godiad cyflog yn anghyson yng nghyd-destun y cyflogau a delir mewn mannau eraill yng Nghymru. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn bwysig sicrhau bod ei benderfyniadau'n adlewyrchu amgylchiadau ariannol ehangach y genedl.
Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan y Bwrdd ar newidiadau i gyflogau a lwfansau’r Aelodau ar gyfer tymor nesaf y Senedd.
Wrth drafod rhewi cyflogau’r Aelodau, dywedodd Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd y Bwrdd:
"Yn dilyn blwyddyn o amgylchiadau economaidd anffafriol, mae effaith y pandemig yn parhau i ymledu, gan ddifrodi incwm gweithwyr yng Nghymru. Er gwaethaf adfywiad economaidd am gyfnod y llynedd, mae cyfnodau clo parhaus a mesurau eraill wedi arafu'r adferiad hwn.
"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu na fydd llawer yng Nghymru wedi dianc rhag y caledi economaidd a achoswyd gan y pandemig. Ac nid ydynt yn debygol o wneud hynny am gryn amser eto.
"Roedd gwrthwynebiad aruthrol y pleidiau yn y Senedd i unrhyw newidiadau i gyflogau hefyd yn ffactor pwysig. O ystyried y casgliadau hyn, penderfynodd y Bwrdd rewi cyflogau Aelodau a deiliaid swyddi ychwanegol am ail flwyddyn."
Mae'r Bwrdd hefyd wedi penderfynu rhoi terfyn uchaf ar y newidiadau blynyddol i gyflogau staff yr Aelodau. Mae hefyd wedi cyflwyno trefniadau pensiwn gwell i staff yn ogystal â newidiadau i'r lwfansau deunydd ysgrifennu sydd ar gael i'r Aelodau.
Dywedodd Dr Elizabeth Haywood:
"Mae’r penderfyniadau a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn ceisio rhoi eglurder i'r rhai sy'n ystyried ymgeisio yn yr etholiad i'r Chweched Senedd ar y pecyn taliadau sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd.
“Bydd yr holl benderfyniadau yn cael eu hadolygu yn ystod tymor nesaf y Senedd, yn unol â threfniadau adolygu’r Bwrdd, i wneud yn siŵr y gall Aelodau gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol ac, ar yr un pryd, sicrhau gwerth rhagorol am arian i drethdalwyr, fel bob amser.
Adroddiad: Adolygiad o'r penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd