Penodi Comisiynydd Safonau Dros Dro

Cyhoeddwyd 13/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2019

Mae Douglas Bain CBE TD wedi ei benodi’n Gomisiynydd Safonau Dros Dro ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pleidleisiodd yr aelodau o blaid y cynnig, a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn ystod y Cyfarfod Llawn, brynhawn Mercher 13 Tachwedd.

Daw'r penodiad i rym ar unwaith a bydd y Comisiynydd Dros Dro yn cymryd gofal o’r cwynion presennol mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad.

Douglas Bain oedd y cyntaf, a hyd yma yr unig, Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon rhwng 2012 a 2017. Yn y rôl honno ei brif swyddogaeth oedd ymchwilio i gwynion bod Aelodau'r Cynulliad Deddfwriaethol (MLAs) wedi torri darpariaethau Cod Ymddygiad Aelodau ac adrodd ar ei ganfyddiadau i Bwyllgor Safonau a Breintiau Cynulliad Gogledd Iwerddon. Yn ystod yr un cyfnod ef oedd y Person Penodedig o dan Ddeddf Elw Troseddau 2002. Rhwng 2006 a 2010 ef oedd Prif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon.

Yn 2018, penododd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Douglas Bain yn Gomisiynydd Dros Dro i ddelio â chwynion yn ymwneud ag ymddygiad Aelod Cynulliad, gan nad oedd y Comisiynydd Safonau yn gallu gweithredu yn yr achos hwnnw.

Diwedd