Penodi Prif Gynghorydd Cyfreithiol cyntaf y Cynulliad yn Gwnsler y Frenhines er anrhydedd

Cyhoeddwyd 17/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Penodi Prif Gynghorydd Cyfreithiol cyntaf y Cynulliad yn Gwnsler y Frenhines er anrhydedd

17 Mawrth 2014

Mae Keith Bush, Cyn-brif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i benodi’n Gwnsler y Frenhines er anrhydedd.

Mae’n un o blith chwe chyfreithiwr a benodwyd yn Gwnsler y Frenhines er anrhydedd eleni, i gydnabod ei gyfraniad arloesol i gyfraith Cymru a Lloegr y tu allan i’r llysoedd.

Dywedodd Mr Bush, "Mae’r penodiad hwn yn anrhydedd mawr."

"Roedd yn fraint cael gweithio fel Prif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lle cefais gyfle i helpu’r Cynulliad i bontio’n llwyddiannus i fod yn gorff deddfu arloesol ac effeithiol."

Dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, y Fonesig Rosemary Butler AC: "Mae enw da’r Cynulliad am ragoriaeth ddeddfwriaethol ac aeddfedrwydd cyfansoddiadol yn adlewyrchiad, i raddau helaeth, o broffesiynoldeb ac arweiniad Keith Bush.

"Fel Llywydd y Cynulliad, roedd ei gyngor cyfreithiol yn werthfawr iawn, ac yn help mawr imi ddeall cymhlethdodau’r gyfraith gyfansoddiadol.

"O dan ei arweiniad, cafodd y Cynulliad y dechrau gorau posibl o ran defnyddio’r pwerau deddfwriaethol ychwanegol a roddwyd i’r sefydliad yn dilyn y bleidlais ‘ie’ yn refferendwm 2011."

Cafodd Keith ei alw i’r Bar ym mis Gorffennaf 1977.  Gadawodd y sector annibynnol er mwyn ymuno â gwasanaeth cyfreithiol Llywodraeth Cymru ym 1999, cyn mynd ymlaen i weithio fel Prif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2007 a 2012.

Ar hyn o bryd, mae’n gymrawd ymchwil er anrhydedd ac yn ddarlithydd ym maes astudiaethau Deddfwriaeth ym Mhrifysgol Abertawe.  Ef hefyd yw Cyfarwyddwr sefydliad Cymru’r Gyfraith a threfnydd cynhadledd Cymru’r Gyfraith.

Cafodd ei argymell oherwydd ei gyfraniad i ddatblygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel deddfwrfa, a’i gyfraniad i’r broses o ddatblygu cyfraith ddatganoledig ac i drafod ac astudio materion cyfreithiol ehangach yn ymwneud â Chymru.

Mae wedi chwarae rôl arweiniol wrth gyfleu i’r farnwriaeth, cyfreithwyr, academyddion, myfyrwyr a’r cyhoedd, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gwybodaeth awdurdodol am agweddau cyfreithiol ar gyfraith a llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: "Roedd modd dibynnu ar Keith bob amser am gyngor cadarn ynglyn â’r materion a ddaeth i’r amlwg wrth i’r Cynulliad ddatblygu yn sefydliad â phwerau deddfu llawn.

"Roedd ganddo ddealltwriaeth unigryw o’r setliad cyfansoddiadol yng Nghymru ac mae wedi chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu a llunio’r broses ddatganoli.

"Roedd yn glir bod Keith wedi ymrwymo i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio er lles pobl Cymru ac mae’n gwbl briodol cydnabod ei gyfraniad drwy ei wneud yn Gwnsler y Frenhines er anrhydedd."