Penodi Prif Weithredwr a Chlerc newydd y Cynulliad

Cyhoeddwyd 25/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/01/2017

Mae’r Dr. Manon Antoniazzi wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Clerc yw’r swydd uchaf yng Nghomisiwn y Cynulliad, ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gynrychioli Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi ar gyfer Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Deiliad y swydd yw’r Prif Swyddog Cyfrifyddu, a bydd hefyd yn hybu enw da’r Cynulliad yng Nghymru a thu hwnt fel democratiaeth hygyrch ac effeithlon.

Manon yw Cyfarwyddwr presennol Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, a hi gynt oedd Prif Weithredwr Croeso Cymru. Yn gynharach yn ei gyrfa, bu’n gweithio yn y BBC ac S4C, a hefyd gyda Thywysog Cymru. Penodwyd Manon yn dilyn proses recriwtio drylwyr a chystadleuol i ganfod olynydd i Claire Clancy, y Prif Weithredwr a Chlerc presennol, sydd wedi penderfynu ymddeol ar ôl bron ddegawd yn y swydd.

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC: “Rwyf wrth fy modd fod Manon wedi derbyn yr her o arwain y sefydliad drwy’r cam nesaf yn ein datblygiad wrth wraidd democratiaeth Cymru. Daw Manon â phrofiad helaeth i’r swydd, ac mae’r panel a minnau yn sicr y bydd yn dod â sgiliau a brwdfrydedd mawr i’r rôl ynghyd ag ymrwymiad angerddol i lwyddiant y Cynulliad. Rwyf hefyd am ddiolch i Claire Clancy am yr arweiniad rhagorol y mae wedi’i ddarparu yn ystod y degawd diwethaf sydd wedi gwneud y Cynulliad yn sefydliad uchel ei barch a edmygir gan seneddau eraill ledled y byd.”

Dywedodd Manon Antoniazzi: “Edrychaf ymlaen at gyflawni’r swydd hon, gan wybod y byddaf yn arwain tîm eithriadol wrth gefnogi ein senedd genedlaethol. Mae’n ugain mlynedd eleni ers y refferendwm a roddodd inni’r mandad i sefydlu’r Cynulliad, a byddaf yn falch o’r cyfle i weithio gyda’r Llywydd ac Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt lywio’r sefydliad drwy’r cyfnod nesaf yn ei daith a gwneud i ddemocratiaeth Cymru weithio.”

Bydd Manon yn dechrau ei swydd ym mis Ebrill 2017.