Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Penodiad newydd i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Cyhoeddwyd 18/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/08/2021   |   Amser darllen munudau

Mae aelod newydd wedi’i benodi i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.


Penodwyd y Gwir Anrhydeddus Syr David Hanson yn aelod o'r Bwrdd a bydd yn dechrau yn ei rôl ar 23 Awst 2021.

Mae'r penodiad hwn yn llenwi swydd wag yn dilyn ymddiswyddiad aelod o'r Bwrdd ym mis Mawrth 2021.

Syr David Hanson oedd Aelod Seneddol Delyn rhwng 1992 a 2019. Yn ystod ei gyfnod yn San Steffan, cafodd brofiad helaeth o fod yn Weinidog yn Llywodraeth y DU, yn ogystal â bod ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys – yn fwyaf diweddar – y Pwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch.

Senedd Cymru oedd y corff seneddol cyntaf yn y DU i sefydlu corff annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau ei Aelodau.

Sefydlwyd y Bwrdd yn sgîl Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ac mae'n gyfrifol am bennu cyflogau a chymorth ariannol i Aelodau o’r Senedd er mwyn eu galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol.

Yn ôl Syr David Hanson:

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â chyd-aelodau o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol er mwyn gwneud yn siŵr bod Aelodau o’r Senedd yn cael y lefel iawn o gefnogaeth i wneud eu gwaith yn effeithiol ar ran pobl Cymru.”

Yn ôl Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd y Bwrdd:

“Mae'r rhain yn amseroedd heriol i Aelodau o'r Senedd wrth iddyn nhw fynd i’r afael ag effeithiau'r pandemig, yn ogystal â chyflawni eu dyletswyddau creiddiol wrth gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y llywodraeth i gyfrif. Bydd David yn gaffaeliad i’r Bwrdd wrth iddo fynd ati i adolygu cyflog a lwfansau Aelodau yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

Yn ôl Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

“Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu penodi aelod o’r Bwrdd sydd â phrofiad mor helaeth ac eang â David.

“Bydd y safon eithriadol o uchel o bobl sy’n gwasanaethu ar y Bwrdd yn helpu i roi hyder i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario gydag uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.”