Pleidlais yn rhoi’r cyfle i Aelodau’r Cynulliad basio deddfau Cymreig newydd

Cyhoeddwyd 13/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Balot yn rhoi’r cyfle i Aelodau’r Cynulliad basio deddfau Cymreig newydd

Bydd Aelodau Cynulliad nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth yn cael eu cyfle cyntaf i basio deddfau newydd ar gyfer Cymru o dan bwerau newydd y Cynulliad. Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn rhoi pwer i’r Cynulliad wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion a ddatganolwyd megis iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol. Categori newydd o ddeddfau Cymreig fydd y rhain ac fe’u gelwir yn Fesurau’r Cynulliad. Cyn gwneud Mesurau sy’n gysylltiedig â maes arbennig o lywodraeth ddatganoledig, bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ‘Cymhwysedd Deddfwriaethol’ – sef yr awdurdod cyfreithiol i basio Mesurau – gan Senedd y DU fesul un achos ar y tro. Gellir caniatáu Cymhwysedd Deddfwriaethol naill ai mewn Deddfau Seneddol neu drwy ddilyn llwybr newydd y  “Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol” (LCO), ac unwaith y bydd y Cynulliad wedi derbyn cymhwysedd deddfwriaethol ar bwnc gan Senedd y DU, caiff ddechrau’r broses o basio Mesurau’r Cynulliad. Mae’r Llywydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi datgan y bydd yn cynnal dwy falot ar 26 Mehefin i ‘r Aelodau gael cyflwyno cynigion, un ar gyfer Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ac un ar gyfer Mesurau. Caiff unrhyw Aelod Cynulliad nad yw’n Aelod o Lywodraeth y Cynulliad bleidleisio a bydd yr LCO a’r Mesur sydd yn llwyddiannus yn y balot yn mynd o flaen y cyfarfod llawn. (Dewisir y rhai buddugol drwy ‘’gymysgiad electronig’’) Dywedodd y Llywydd: “Roeddwn yn benderfynol  o weithredu’n gyflym ar hyn, gan nad oeddwn i’n fodlon ar sefyllfa lle’r oedd y Llywodraeth yn cael deddfu, ond y gweddill ohonom yn methu. ‘Rwyf yn sicr y bydd diddordeb cynyddol ymhlith y rhai sydd yn ein gwylio ac yn dilyn ein trafodion yn y ffaith ein bod ni bellach wedi cychwyn y broses ddeddfu, nid o ran y Llywodraeth yn unig ond o ran Aelodau’r Cynulliad.”  Hefyd, anogodd aelodau’r cyhoedd i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad gyda’u syniadau’u hunain am ddeddfwriaeth.