Prentisiaeth wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru – y cam cyntaf tuag at eich dyfodol

Cyhoeddwyd 16/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2019

​Rydym wrthi’n chwilio am brentisiaid nesaf y Cynulliad Cenedlaethol.

P’un a ydych ar fin gadael addysg amser llawn, neu’n chwilio am gyfle i newid gyrfa neu droi dalen newydd, prentisiaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r cam cyntaf tuag at eich dyfodol. 

Mae’r Cynllun Prentisiaethau ar gyfer 2020 bellach yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd am gael y cyfle i weithio ac astudio wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu sgiliau a dealltwriaeth ar sut i gynorthwyo a gweithio mewn gweithle prysur a chyffrous lle y mae deddfau Cymru yn cael eu gwneud. Byddant hefyd yn astudio ar gyfer cymhwyster Diploma mewn Gweinyddu Busnes wrth ennill cyflog byw, sef £17,383.

Bydd y prentisiaid newydd yn dechrau eu swyddi 12 mis ym mis Ionawr 2020 ac yn cael y cyfle i weithio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Mae'r ystod o brofiad sydd ar gael i'r prentisiaid yn amrywio ar draws adrannau’r sefydliad: o gynorthwyo'r tîm adnoddau dynol, i gyfrannu at ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu, gweinyddu'r adrannau diogelwch ac adeiladau a gweithio gyda thimau clercio pwyllgorau'r Cynulliad ar reng flaen y broses ddemocrataidd.

Mae Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn annog pobl i wneud cais, beth bynnag yw eu cefndir a’u profiad;

“Rydym yn chwilio am bobl o gefndiroedd gwahanol â gwerthoedd yn eu llywio i gyfrannu eu safbwyntiau unigryw, eu profiadau a’u sgiliau i weithle bywiog a chynhwysol ein Cynulliad. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith fel un tîm - os ydych yn awyddus i ddysgu, a’r un mor awyddus i rannu’ch syniadau â ni; yn gallu cydweithio ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru, dyma'r brentisiaeth i chi. Ymunwch â ni!”

Ymysg manteision y cynllun y mae oriau gwaith hyblyg a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd a chydbwysedd gwaith/bywyd iach ac amgylchedd gwaith cefnogol.

Mae llawer o brentisiaid blaenorol wedi mynd ymlaen i gyflogaeth amser llawn, rhai mewn swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad. Dyma brofiad rhai o’r prentisiaid presennol:

Mae Mahima Khan, o Gaerdydd, wedi dysgu sgiliau gwerthfawr a chael cipolwg ar yr amgylchedd gwaith; "Rwy'n teimlo bod gwneud Prentisiaeth yn syniad gwych gan ei bod yn fy helpu i wella fy sgiliau dysgu yn y gwaith ac yn rhoi darlun i mi o fyd gwaith – rwy’n dysgu imi gael cydbwysedd rhwng astudio a gwaith bob dydd, ac mae'n rhoi cyfleoedd i mi symud ymlaen pryd bynnag y bo angen."

Mae Joshua Phillips, o Gastell-nedd, yn canmol cefnogaeth ei gydweithwyr; “Ers ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel prentis, rwyf wedi cael cefnogaeth ac arweiniad gan fy nghydweithwyr a'r sefydliad, ac mae hynny wedi fy helpu i gwblhau fy mhrentisiaeth a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i lwyddo a symud ymlaen yn fy ngyrfa.”

Mae Aled Thomas, o Gaerdydd, yn annog eraill i gyflwyno cais; “Rwy'n argymell eich bod yn ystyried o ddifri gwneud cais am y cynllun prentisiaeth hwn oherwydd y byddai'n ddechrau gwerthfawr i'ch gyrfa, yn enwedig gan fod y lle hwn mor groesawgar i bobl leiafrifol fel pobl ag anabledd neu bobl LGBT. Mae amrywiaeth o leoedd i weithio yma. Ewch amdani”

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi gadael addysg neu swydd amser llawn erbyn i’r brentisiaeth ddechrau ym mis Ionawr 2020. Mae’n rhaid bod ganddynt gymhwyster TGAU Saesneg a Mathemateg (A* - C) neu gymhwyster cyfatebol, ac ni ellir ymgeisio os ydyn oes ganddynt gymhwyster mewn pwnc tebyg i Weinyddu Busnes.

Mae pecyn gwybodaeth sy’n cynnwys canllawiau am sut i wneud cais ar gael ar www.cynulliad.cymru/Prentisiaethau

Dylid cyflwyno ceisiadau i swyddi@cynulliad.cymru erbyn y dyddiad cau ar 27 Medi 2019. Mae’r holl amodau a thelerau ar gael ar y wefan.