Prif Weinidog yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad i bolisi ynni

Cyhoeddwyd 20/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Prif Weinidog yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad i bolisi ynni

20 Medi 2011

Yr wythnos hon, bydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn clywed tystiolaeth gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog, fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

Bydd John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, hefyd yn rhoi tystiolaeth yn y cyfarfod am 09.30 ddydd Mercher 21 Medi.

Mae gan sefydliadau ac aelodau’r cyhoedd tan ddydd Gwener 23 Medi i gyflwyno tystiolaeth fel rhan o’r broses ymgynghori.