Problemau trafnidiaeth Cwpan Rygbi’r Byd i’w harchwilio gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 21/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2015

 

Bydd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio'r problemau a gododd mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus yn ystod gemau Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd.

Cyfeiriodd teithwyr at oedi sylweddol yn sgil gorlenwi wrth deithio yn ôl ac ymlaen i brifddinas Cymru. Defnyddiodd nifer ohonynt y cyfryngau cymdeithasol i fynegi eu rhwystredigaeth wrth i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn bennaf gael trafferth yn ymdopi â'r galw.

Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn holi Great Western Railway (First Great Western gynt), Trenau Arriva Cymru, Network Rail, Cyngor Caerdydd a threfnwyr Cwpan Rygbi'r Byd, ymysg eraill, ynghylch pa effaith a gafodd y problemau trafnidiaeth, a pha wersi a ddysgwyd.

Amcangyfrifir mai'r gwerth economaidd i Gaerdydd yn sgil cynnal rhai o gemau Cwpan y Byd yw £316 miliwn.

Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, "Roedd Cwpan Rygbi'r Byd yn gyfle gwych i groesawu'r byd i Gymru a Chaerdydd.

"Fodd bynnag, mae arnaf ofn y bydd problemau trafnidiaeth gyhoeddus yn lliwio profiadau llawer o bobl, a gallai hyn atal pobl oedd yn meddwl ymweld yn y dyfodol.

"Wrth gwrs, mae Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn gwneud hynny eto gyda digwyddiadau fel Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd flwyddyn nesaf a Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017.

"Er mwyn gwireddu manteision economaidd y digwyddiadau hyn, mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn gallu teithio yma, teithio oddi yma a theithio o amgylch y wlad mor hawdd â phosibl.

"Felly, bydd y Pwyllgor yn edrych yn arbennig ar ba wersi a ddysgwyd at y dyfodol."

Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau 5 Tachwedd.

​Lluniau: Jeremy Segrott (Flickr)