Cyhoeddwyd 28/02/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pryder y Pwyllgor Cyfle Cyfartal am addysg plant sipsiwn- teithwyr
Bydd Aelodau Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn holi’r Gweinidog Addysg Jane Davidson yn fuan am yr addysg a ddarperir i blant sipsiwn-teithwyr.
Mae’r Pwyllgor yn pryderu nad yw’r argymhellion yn ei
adolygiad o wasanaethau ar gyfer sipsiwn-teithwyr yng Nghymru wedi’u gweithredu. Er enghraifft, yr oedd y Pwyllgor eisiau gweld gwell hyfforddiant i athrawon a mwy o grantiau i fod ar gael ar gyfer gwasanaethau addysg arbenigol i deithwyr. Mae manylion yr adolygiad i’w gweld yma:
Yn yr un cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn trafod adroddiadau blynyddol y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Hefyd bydd Aelodau yn ystyried cynnydd strategaeth gofal plant Llywodraeth y Cynulliad.
Bydd y cyfarfod yn digwydd am 9.15 fore dydd Mercher, Chwefror 28, yn Ystafelloedd Pwyllgora 1a2, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda