Pryderon ynglŷn ag eglurder a thryloywder ceisiadau am ragor o bwerau – dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 09/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pryderon ynglyn ag eglurder a thryloywder ceisiadau am ragor o bwerau – dweud eich dweud

9 Tachwedd 2009

A yw’r ffordd y caiff ceisiadau am ragor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu drafftio yn rhy gymhleth?

Dyna’r cwestiwn y mae Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ofyn wrth iddo lansio ymchwiliad i’r ffordd y caiff Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol newydd eu llunio.

Mae hyn yn dilyn adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Ty’r Arglwyddi a ofynnodd gwestiynau ynglyn ag “eglurder” a “thrylowyder” y broses o ddrafftio Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Mae Pwyllgor Cyfansoddiad Ty’r Arglwyddi wedi nodi pwnc sy’n peri pryder gwirioneddol. Efallai bod yr hyn a elwir yn eithriadau penodol a chyffredinol yn swnio fel jargon cyfreithiol, ond gall defnyddio’r termau hyn gymhlethu cyfreithiau Cymreig heb reswm da a gwneud gwaith y Cynulliad yn anoddach.”  

“Bydd ein hymchwiliad yn ystyried sut y caiff yr eithriadau i bwerau’r Cynulliad eu drafftio a’r rhesymau dros newid y dull a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, sydd wedi arwain at y pryderon hyn.”

“Byddwn hefyd yn trafod goblygiadau hyn ar ddatblygu “Cyfansoddiad Cymreig” a sut y gellir egluro’r broses o ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad fel bod dealltwriaeth well gan y cyhoedd.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar dudalennau ymgynghori’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth ar y we.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn y broses ymgynghori anfon eu hymateb at legislation.committee@wales.gsi.gov.uk

Fel arall, gellir anfon ymatebion ysgrifenedig at y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA