Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn "disgwyl canlyniadau" gan Gomisiwn y Cynulliad
17 Hydref 2012
Dywed Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei fod yn "disgwyl canlyniadau" yn ei adolygiad o gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14.
Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Angela Burns AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y gyllideb a llywodraethu, yn nodi ei fod yn anghyfforddus gyda’r cynnig am gynnydd o 5.3 y cant.
Cydnabu, fodd bynnag mai dyma’r ail o strategaeth tair blynedd i sicrhau y gall y sefydliad ymdopi â chyfrifoldebau deddfwriaethol newydd a chyflawni ei weledigaeth o fod yn sefydliad enghreifftiol - sy’n darparu cymorth o safon fyd-eang i’r ddemocratiaeth y mae’n ei gwasanaethu ac i’r staff sy’n ei alluogi i wneud hynny.
Cydnabu’r Pwyllgor hefyd mai canlyniad cydymffurfio â’r cais i Gomisiwn y Cynulliad raddoli ei gynnydd arfaethedig yn y gyllideb dros ddwy neu dair blynedd yw cynnydd mwy sydyn y tro hwn.
"Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y cynllun buddsoddi a gynigiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad yn ei uchelgais i fod yn sefydliad enghreifftiol mewn gwasanaeth cyhoeddus," meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
"Byddwn ni, a phobl Cymru, bellach am weld yn union sut y mae’n bwriadu cyrraedd y safon hon drwy ganlyniadau cryno y gellir eu dangos.
"Mae’r Pwyllgor hefyd yn gosod dangosydd sy’n nodi’n glir na all y Comisiwn, ar ôl cwblhau’r rhaglen fuddsoddi hon, ddisgwyl codiadau yr un mor sydyn yn y gyllideb yn y dyfodol."
Mae’r Pwyllgor yn gwneud tri argymhelliad i’r Comisiwn:
Dylai gyhoeddi set gryno o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i’r Aelodau eu defnyddio i fesur i ba raddau mae’r gyllideb yn cyfrannu at nodau ac amcanion corfforaethol.
Bod y Comisiwn, yn y dyfodol, yn darparu manylion - am arbedion a buddsoddiadau – fel a gafwyd yng nghyllideb ddrafft 2012-13; ac
Na fydd cyllidebau’r Comisiwn ar gyfer 2015-16 a 2016-17, erbyn diwedd y rhaglen fuddsoddi tair blynedd hon, yn cynyddu dim mwy na’r newid cyfatebol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.