Pwyllgor Cynulliad am glywed barn y cyhoedd am gynigion ar gyfer Mesur i sefydlu rôl statudol ar gyfer Comisiynydd Safonau

Cyhoeddwyd 24/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad am glywed barn y cyhoedd am gynigion ar gyfer Mesur i sefydlu rôl statudol ar gyfer Comisiynydd Safonau

Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghoriad ar ei fwriad i gynnig Mesur Cynulliad i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae’r pwyllgor wedi cytuno ar eiriad ei Fesur arfaethedig ddrafft ac mae’n ymgymryd â chyfnod ymgynghori pellach.  

Hoffai’r pwyllgor glywed barn pawb sydd â diddordeb o ran:

  • a ydynt yn cefnogi’r prif ddarpariaethau a nodir yn y Mesur arfaethedig  

  • a ydynt yn credu bydd y Mesur Cynulliad arfaethedig yn cyflawni ei ddiben a’i amcan cyffredinol

  • a ydynt yn credu bod yr amcangyfrif o gostau y cyfeirir ato yn y Memorandwm Esboniadol yn gywir

  • a oes darpariaethau pellach yr hoffent eu gweld yn cael eu hychwanegu i’r Mesur Cynulliad arfaethedig

Diben y Mesur arfaethedig fydd gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu rôl statudol ar gyfer Comisiynydd Safonau.  Bydd y Mesur arfaethedig yn cynnwys yn y ddeddfwriaeth rôl gadarn ar gyfer Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth holl rym y gyfraith, gan nodi swyddogaethau’r Comisiynydd a rhoi pwerau i’r Comisiynydd gyflawni’r swyddogaethau hynny’n effeithiol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Catherine Hunt, y Gwasanaeth Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA erbyn Dydd Mercher, 31 Rhagfyr 2008

fan bellaf. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu fformat Rich Text naill ai ar yr e-bost at pwyllgorsafonau@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae canllawiau pellach ar gyflwyno tystiolaeth ynghlwm.

Efallai y bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r rhai sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gyflwyno fel tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a fyddech yn fodlon cyflwyno’ch tystiolaeth yn bersonol ai peidio os gwelwch yn dda.

Dylai tystion fod yn ymwybodol, unwaith bo tystiolaeth ysgrifenedig wedi’i chyflwyno i Bwyllgor y caiff ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw gosod papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac fe allant wedyn gael eu hargraffu gyda’r adroddiad