Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol wedi'i galonogi gan gyfraddau ailgylchu, ond gellir gwneud mwy

Cyhoeddwyd 18/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2015

Mae ymchwiliad gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canfod bod ymateb pobl Cymru i'r her o ailgylchu wedi bod yn rhagorol, ond mae angen gwneud mwy i gyrraedd targedau cynyddol heriol.

Fel cenedl, mae Cymru yn cyflawni un o'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol uchaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cyflwyno targedau statudol ar gyfer ailgylchu ac mae'r gyfradd ailgylchu ar gyfer gwastraff trefol wedi tyfu o 10% yn 2005 i 54% yn 2013/14.

Er y bu gwelliant o ran cyrraedd targedau ailgylchu yng Nghymru, ni chyrhaeddodd naw o'r 22 awdurdod lleol y targed 52% ar gyfer 2012-13. Yn ôl data mis Mawrth 2014, mae tri awdurdod lleol heb gyflawni'r targed hwnnw o hyd.

Darganfu'r Pwyllgor fod 22 ffordd wahanol o gasglu gwastraff yng Nghymru, yn seiliedig ar dri dull o gasglu ailgylchu. Nid oes un dull penodol o gasglu deunydd y gellir ei ailgylchu o gartrefi sy'n arwain o ran perfformiad, cost neu effeithlonrwydd ac ni ddylai cyrraedd targedau ailgylchu sy'n seiliedig ar bwysau effeithio ar ymdrechion i leihau gwastraff.

Gallai cyfuniad o gyfathrebu ac ymgysylltu da, ynghyd â gostyngiad mewn casgliadau gwastraff gweddilliol ('bag du'), wella cyfraddau ailgylchu eto. Er y gallai fod rôl i ddefnyddio cosbau ariannol yn y dyfodol, byddai'n rhy gynnar i ystyried eu cyflwyno hyd nes bod y ffyrdd eraill o annog pobl wedi methu.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion yn ei adroddiad am sut gallai Llywodraeth Cymru barhau i gymryd camau tuag at ailgylchu mwy, ac mae'n codi rhai pryderon am feysydd lle gellir gwella'r cynnydd.

Dyma'r prif argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru:

  • Comisiynu adolygiad annibynnol o'r 'glasbrint casgliadau' a'r dystiolaeth sy'n sail iddo, gan gwblhau'r adolygiad erbyn diwedd mis Mawrth 2016, er mwyn iddo helpu i lywio'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i gyrraedd y targed o 64% yn 2019/20.
  • Annog cydweithio rhwng awdurdodau lleol wrth adnewyddu contractau ar gyfer darparu offer i gartrefi ar gyfer casglu gwastraff y gellir ei ailgylchu.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y wybodaeth am ble anfonir gwastraff a gesglir o gartrefi ar gael i'r cyhoedd.         
  • Ymchwilio i dargedau sy'n seiliedig ar bwysau ac a ydynt yn cael unrhyw effaith anfwriadol ar leihau ôl troed ecolegol gwastraff. Dylid cwblhau hyn erbyn diwedd 2015.
  • Comisiynu ymchwil i'r berthynas rhwng y rhagamcanion ar gyfer lleihau gwastraff; incwm awdurdodau lleol o wastraff; a gallu awdurdodau lleol i gyrraedd eu targedau ailgylchu yn y cyfnod hyd at 2019/20 ac yna 2024/25. Dylid cwblhau hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2016.
  • Ymchwilio i'r achos o blaid sefydlu 'brocer' cenedlaethol ar gyfer gwerthu deunydd ailgylchu ar ran awdurdodau lleol ledled Cymru. Dylid cyhoeddi'r canfyddiadau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2015.
  • Ystyried rhinweddau buddsoddi mewn ymgyrch genedlaethol i helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu. Wrth wneud hyn, dylai hefyd ystyried datblygu ymgysylltiad cyhoeddus ynghylch ailgylchu i hybu dealltwriaeth o'r angen i leihau ôl troed ecolegol gwastraff a phwysigrwydd mesurau eraill, yn enwedig lleihau gwastraff.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd:

"Ymatebodd dros 3,000 o bobl i'r ymchwiliad hwn, yr ymateb mwyaf i unrhyw ymchwiliad yn y Cynulliad.

"Rydym wedi'n calonogi ac yn frwdfrydig am lefel y diddordeb a'r brwdfrydedd sy'n bodoli dros barhau i ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl.

"Ond, ni allwn laesu dwylo am yr her o gwrdd â chyfraddau ailgylchu uwch. Gall llywodraeth leol a'r Llywodraeth genedlaethol wneud mwy i annog cyflawni'r cyfraddau uwch hyn.

"Mae'r ffaith bod cymaint o bobl ifanc wedi ymateb yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Rydym yn hyderus, os gall y Llywodraeth sicrhau seilwaith cywir, y gall Cymru barhau i gwrdd â'r her o greu llai o wastraff ac ailgylchu mwy."