Pwyllgor Cynulliad i ddechrau ar ymchwiliad i’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd

Cyhoeddwyd 25/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i ddechrau ar ymchwiliad i’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd

Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd y Cynulliad Cenedlaethol i ddechrau ar ymchwiliad i’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd, i geisio darganfod a yw cyfleoedd i ddefnyddio arian posibl gan y banc yn cael eu defnyddio’n briodol yng Nghymru. Y Banc Buddsoddi Ewropeaidd yw sefydliad ariannu’r Undeb Ewropeaidd ac fe’i sefydlwyd i ddarparu arian ar gyfer buddsoddi cyfalaf gan ymestyn amcanion polisi’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys datblygu rhanbarthol, trafnidiaeth, datblygu ac arloesi, gwella’r amgylchedd a gwarchodaeth, a datblygu iechyd ac addysg. Mae cytundeb clymblaid “Cymru’n Un ” yn gwneud ymrwymiad i ymchwilio i ddewisiadau ar gyfer cael cytundeb buddsoddi’r sector cyhoeddus gyda’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd. Ystyriodd y Llywodraeth flaenorol y Cynulliad nad oedd yn gymwys i fenthyca arian yn uniongyrchol gan y Banc Buddsoddi Ewropeaidd. Mae’n ymddangos fod Adran 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi i’r Llywodraeth newydd ddigon o awdurdod cyfreithiol i fenthyca gan y Banc Buddsoddi Ewropeaidd. Yn ymarferol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddai angen cymeradwyaeth gan Drysorlys ei Mawrhydi, sy’n rheoli benthyca gan y llywodraeth yn gyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl canlynol ar gyfer yr ymchwiliad:                         
  • Ymchwilio i’r cyfleoedd gaiff eu cynnig gan y Banc Buddsoddi Ewropeaidd ar gyfer ariannu prosiectau seilwaith yng Nghymru;                                            a
  • Gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i hwyluso buddoddi yng Nghymru gan y Banc Buddsoddi Ewropeaidd.
Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “’Rwy’n hapus iawn fod y Pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Yr ydym eisiau edrych i ba raddau y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd, a sut mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn cael budd gan y ffynhonnell arian hon.  Byddwn yn nodi’r cyfleoedd mae’r ariannu hwn yn eu rhoi i Gymru, a hefyd unrhyw rwystrau sy’n bodoli iddo.” Bydd y Pwyllgor yn awr yn derbyn tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad y gwanwyn nesaf. Mwy o fanylion am y Pwyllgor