Pwyllgor Cynulliad i drafod deddf newydd arfaethedig ar iawndal am gamweddau’r GIG

Cyhoeddwyd 24/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i drafod deddf newydd arfaethedig ar iawndal am gamweddau’r GIG

Yn ei gyfarfod nesaf bydd Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod y Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007 – y tro cyntaf i’r Pwyllgor ddefnyddio’i bwerau craffu newydd. Bydd y Pwyllgor yn arfer ei bwerau o dan Reol Sefydlog 15.6(ii), sydd yn dweud “caiff y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar briodoldeb darpariaethau mewn Mesurau Cynulliad arfaethedig ac mewn Mesurau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol”. Dyma’r Mesur drafft cyntaf i ddod gerbron y Cynulliad ac mae’r Aelodau’n edrych ymlaen  am y drafodaeth. Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: ”Bydd hwn yn gyfarfod pwysig gan mai dyma’r cyfle cyntaf i’r Pwyllgor arfer ei bwerau newydd i ystyried Mesurau Cynulliad.  Bydd yn rhaid inni fod yn drylwyr wrth graffu ar y pwerau deddfu yr arfaethir eu dirprwyo i Weinidogion Cymru yn hytrach na’u harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol llawn.” Bydd y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Caerdydd rhwng 8.15am a 9.15am ddydd Mawrth 25 Medi 2007. Manylion llawn ac agenda