Pwyllgor Cynulliad i graffu ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol diwygiedig ynghylch yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd 28/05/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i graffu ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol diwygiedig ynghylch yr Amgylchedd

Bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar Orchymyn diwygiedig llywodraeth Cymru ynghylch yr Amgylchedd.

Dywedodd Mike German AC, Cadeirydd y Pwyllgor:  “Mae’r amgylchedd a rheoli gwastraff yn faterion sydd o ddiddordeb i ni gyd yng Nghymru.”

“Mae’n bwysig ein bod yn craffu ar waith y Gweinidog i sicrhau ein bod yn deall goblygiadau’r newidiadau a wnaed i’r Gorchymyn arfaethedig”.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn casglu tystiolaeth gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros gynaliadwyedd, ar 3 Mehefin ac yn cyhoeddi ei adroddiad ar 12 Mehefin.

Rhaid i unrhyw un sydd am gyflwyno’u sylwadau wneud hynny erbyn canol dydd ar 1 Mehefin. Gellir cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig drwy eu hanfon drwy e-bost i legislationoffice@wales.gsi.gov.uk neu drwy’r post i’r Swyddfa Ddeddfwriaeth, 3ydd Llawr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.