Pwyllgor Cynulliad i gyfarfod ym Merthyr

Cyhoeddwyd 30/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i gyfarfod ym Merthyr

Bydd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei gyfarfod nesaf yng Ngholeg Merthyr Tudful ar ddydd Iau, Mehefin 5ed am 1.30pm.

Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad cyfredol i gam-drin domestig. Bydd Aelodau yn gwrando ar gyflwyniadau gan Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan(AWEMA), Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig (MEWN) a Llwybrau Newydd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Janice Gregory AC: “Mae cam-drin domestig yn fater sy’n effeithio ar bobl o bob cefndir, beth bynnag bo’u rhyw, eu rhywioldeb, eu hil, eu hoedran neu’u cefndir economaidd gymdeithasol.  Mae’r pwyllgor yn ymroddedig i archwilio strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â’r broblem hon, y cymorth sydd ar gael ar gyfer dioddefwyr a’r rhaglenni sy’n ceisio atal cam-drin domestig. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dysgu am y gweithgareddau sy’n digwydd ar lefel leol ledled Cymru gyfan er mwyn i ni allu amlygu arfer gorau, a dyna pam yr ydym yn ymroddedig i fynd a’r pwyllgor allan o Gaerdydd i gyfarfod yn y cymunedau yr effeithir arnynt gan y mater hwn.”

Cynhelir y cyfarfod yn y Brif Neuadd, Coleg Merthyr Tudful, Ynysfach, Merthyr Tudful o 1:30pm hyd at 3.15pm ar ddydd Iau Mehefin 5ed.

Gwybodaeth bellach am y pwyllgor