Pwyllgor Cynulliad i gymryd tystiolaeth ar Gynllunio’r Gweithlu

Cyhoeddwyd 16/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i gymryd tystiolaeth ar Gynllunio’r Gweithlu

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn parhau gyda’i ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu yn ystod ei gyfarfod nesaf, sydd i’w gynnal ddydd Mercher 17 Hydref 2007.

Bydd y pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan Sue Cromack, Uwch Reolwr Cynllunio’r Gweithlu a Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr dros dro Uned Datblygu’r Gweithlu yn Asiantaeth Genedlaethol Arweiniad ac Arloesoldeb dros Ofal Iechyd a chan Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru.

Bydd Aelodau hefyd yn trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

Cynhelir y cyfarfod am 9:30am ddydd Mercher 17 Hydref 2007 yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Gwybodaeth bellach am y pwyllgor, yn ogystal ag agenda