Pwyllgor Cynulliad yn croesawu mwy o bwerau dros yr amgylchedd ond yn codi pryderon am gymhlethdod cynyddol y setliad datganoli presennol ement.

Cyhoeddwyd 24/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn croesawu mwy o bwerau dros yr amgylchedd ond yn codi pryderon am gymhlethdod cynyddol y setliad datganoli presennol

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi cynigion i gryfhau pwerau deddfu’r Cynulliad mewn perthynas â’r amgylchedd.

Fodd bynnag, roedd Aelodau’r Pwyllgor yn teimlo bod nifer a chymhlethdod yr eithriadau a ychwanegwyd at Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol 2009 ynghylch yr Amgylchedd yn golygu bod y gyfraith yn gymhleth iawn ac felly ei bod yn anodd i’r cyhoedd, rhanddeiliaid a phobl broffesiynol perthnasol ei deall.

Maent yn rhannu’r pryderon a fynegwyd gan Bwyllgor Cyfansoddiad Ty’r Arglwyddi bod y cyfansoddiad ysgrifenedig ar gyfer llywodraethu Cymru yn mynd yn rhy gymhleth.

Yn ei adroddiad ar y Gorchymyn arfaethedig, dywedodd y Pwyllgor (sy’n cael ei gadeirio gan Mike German AC): “Rydym yn argymell yn gryf y dylai’r Gweinidog ymchwilio i ffyrdd y gellir symleiddio’r eithriadau i gymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig y Cynulliad Cenedlaethol.”

Un o argymhellion y Pwyllgor oedd gwneud hyn drwy ddiwygio’r Gorchymyn arfaethedig i  “ddileu’r eithriadau sy’n dyblygu’r cyfyngiad o ran ‘swyddogaethau Gweinidogion y Goron’” sydd eisoes yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.   

Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell “bod Gweinidogion Cymru, mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol nawr ac yn y dyfodol, hefyd yn mynd i’r afael â’r mater o drosglwyddo swyddogaethau gweithredol perthnasol” er mwyn “peidio â chyfyngu’r mater o drosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol” a hefyd “er mwyn gallu deall ffiniau cymhwysedd deddfwriaethol [y Cynulliad Cenedlaethol] yn gliriach.”

Mae’r Gorchymyn arfaethedig hefyd yn cynnwys eithriadau mewn meysydd heblaw am yr amgylched. Nid oedd y Pwyllgor yn argyhoeddedig y gellid cyfiawnhau cynnwys eithriadau o’r fath.  Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ail-ddrafftio’r eithriadau penodol yn ymwneud â’r amgylchedd yn unig.

Roedd Aelodau’r Pwyllgor hefyd yn galw am fwy o eglurder yn y Memoranda Esboniadol sy’n cyd-fynd â Gorchmynion arfaethedig yn y dyfodol yn rhoi esboniad o’r rhesymau dros gynnwys unrhyw eithriadau ynddynt.