Pwyllgor Cynulliad yn dechrau ymchwiliad i lefel cyfranogaeth Cymru mewn rhaglenni ariannu’r UE

Cyhoeddwyd 07/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn dechrau ymchwiliad i lefel cyfranogaeth Cymru mewn rhaglenni ariannu’r UE

7 Hydref 2010

Heddiw (Hydref 7), mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i gyfranogiad Cymru mewn rhaglenni ariannu’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’n galw am dystiolaeth gan unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd a diddordeb yn y maes.

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar lefel y cyfranogiad mewn tair rhaglen ariannu – y Rhaglen Ymchwil Fframwaith ar gyfer Ymchwil a Datblygiad Saith (FP7); y Rhaglenni Dysgu Gydol Oes, a’r Rhaglen Fframwaith Cystadleurwydd ac Arloesi.

Y bwriad yw cael dealltwriaeth o hyd a lled cyfranogiad sefydliadau o Gymru yn y rhaglenni hyn; dod o hyd i enghreifftiau llwyddiannus o Gymru; amlygu unrhyw agweddau cadarnhaol neu negyddol ar gyfranogi yn y rhaglenni, a chynnig argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru er mwyn hwyluso cyfranogaeth yn y dyfodol.

Dywedodd Rhodri Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol: “Mae nifer helaeth o raglenni’r Undeb Ewropeaidd ar draws ystod eang o feysydd polisi y gall sefydliadau Cymreig fod yn gymwys i wneud cais ar eu cyfer, ond bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar y tair rhaglen fwyaf heblaw am y cronfeydd strwythurol a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

“Mae’r Pwyllgor yn awyddus i gael syniad o lefel y gyfranogaeth gan sefydliadau o Gymru yn y rhaglenni hynny, cymharu hynny a rhannau eraill o’r DU a’r UE, a deall i ba raddau y mae cyfranogaeth o’r fath yn helpu i gyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn annog unrhyw unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd a diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig fel sail i’r ymchwiliad pwysig hwn.”

Gellir gweld cwestiynau’r ymgynghoriad ar wefan y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yma

Dylid cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor, a hynny erbyn dydd Gwener 12 Tachwedd a’i anfon at Europe.comm@wales.gov.uk.

Os nad yw hynny’n bosibl, anfonwch eich cyflwyniad ysgrifenedig at:

Clerc y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, CF99 1NA.