Pwyllgor Cynulliad yn galw am fwy o graffu ar bwerau a ddatganolir o San Steffan

Cyhoeddwyd 23/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn galw am fwy o graffu ar bwerau a ddatganolir o San Steffan

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am fwy o graffu ar bwerau a drosglwyddir i Weinidogion Llywodraeth Cymru yn Neddfau San Steffan.

O dan y drefn bresennol, gall Deddfau Senedd y DU roi pwerau newydd mewn meysydd datganoledig yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru drwy Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn ffurfiol, ond nid ydynt yn destun craffu manwl gan bwyllgor, fel yn achos Biliau’r Cynulliad.

Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn argymell newidiadau i weithdrefnau’r Cynulliad fel y gall pwyllgorau’r Cynulliad graffu ar y cynigion hyn yn fwy manwl.

Dywedidd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: “Byddai’r broses hon yn caniatáu adolygiad mwy manwl o bwerau sydd ar hyn o bryd yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru, llawer ohonynt heb archwiliad trylwyr o safbwynt Cymru”.

“Yn yr Alban, mae confensiwn Sewel yn mynnu bod pob deddf San Steffan sy’n effeithio ar gymhwysedd Senedd yr Alban yn cael ei chymeradwyo gan y Senedd honno.

"Er bod confensiwn Sewel wedi ei gymhwyso i Gymru, nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol erioed wedi ystyried yn llawn sut y mae’n gweithio yn ymarferol mewn perthynas â'r trefniadau datganoli yng Nghymru, sydd braidd yn wahanol.

“O ystyried cymhwysedd cynyddol y Cynulliad Cenedlaethol yn sgil canlyniad y refferendwm y llynedd, rydym yn credu mai nawr yw’r amser i’r Cynulliad neilltuo amser i drafod sut y dylai’r confensiwn weithredu yma.

“Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion ynghylch gwella’r rhybudd cynnar a roir ynglyn â deddfwriaeth San Steffan sy’n effeithio ar gymhwysedd y Cynulliad neu ar bwerau Gweinidogion Cymru.

“Yn ogystal, mae angen diweddaru’r canllawiau ar gyfer Adrannau Llywodraeth y DU ynghylch sut y mae setliad datganoli Cymru yn gweithio.”

Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn galw am nifer o newidiadau i Reolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, sef y rheolau y mae’n gweithredu yn unol â hwy.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid dileu Rheol Sefydlog 30, sy’n ymwneud â hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU, ac y dylid diwygio Rheol Sefydlog 29 i adlewyrchu’r drefn newydd.

Mae rhai o argymhellion eraill y Pwyllgor yn ymwneud â rhoi rhagor o rybudd ynghylch Biliau’r DU sydd â goblygiadau i gymhwysedd y Cynulliad a gwell dealltwriaeth o bwerau datganoledig ymhlith swyddogion y gwasanaeth sifil yn Whitehall.