Pwyllgor i ddilyn trywydd yr ymchwiliad i Ariannu Ysgolion

Cyhoeddwyd 11/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i ddilyn trywydd yr ymchwiliad i Ariannu Ysgolion

Yn ei gyfarfod nesaf bydd Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried cynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion ar Drefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru.                           

Ym mis Mehefin 2006, rhoddodd Pwyllgor Ariannu Ysgolion Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar Drefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru. Gwnaeth yr adroddiad 27 o argymhellion, a chafodd 23 o’r rheiny eu derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Bu’r Pwyllgor Menter a Dysgu’n gwneud gwaith craffu dilynol ar y cynnydd o ran gweithredu’r argymhellion hyn ers y llynedd.  Bu’r pwyllgor yn craffu ar waith Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ym mis Tachwedd a gofynnwyd am ymgynghoriad ysgrifenedig rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror.

Yn ystod y cyfarfod bydd y pwyllgor yn cynnal sesiwn graffu ddilynol yn seiliedig ar y dystiolaeth ysgrifenedig.  Bydd yr Aelodau yn craffu ar waith Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn, ynghyd â’r Gweinidog.  

Y papurau a gyflwynwyd i’r pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad dilynol

Dywedodd Gareth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae ariannu ysgolion, sy’n cynnwys materion fel lleoedd ysgol a buddsoddi mewn adeiladau ysgol, yn fater hanfodol.  Y llynedd bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau o ran y cynnydd a wnaed mewn  gweithredu argymhellion y cyn Bwyllgor ar Ariannu Ysgolion.  Ond roedd y Pwyllgor hefyd yn dymuno canfod barn rhanddeiliaid allweddol yn lleol.  Wedi gwneud hynny rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i ddilyn dull cyfaill beirniadol er mwyn herio’r Gweinidog ar y dystiolaeth, cyn i ni gytuno ar argymhellion terfynol.”

Cynhelir y cyfarfod ddydd Mercher 12 Mawrth am 9.30am yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.  Rhagor o fanylion am y pwyllgor