Cyhoeddwyd 26/09/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor i lansio pwyllgor craffu ar hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio
Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod ei ymchwiliad craffu cyntaf i hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 27 Medi.
Bydd yr Aelodau’n cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad ac yn trafod pa dystion posibl i’w gwahodd i roi tystiolaeth mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Ann Jones AC: “Mae’r nifer sy’n pleidleisio ac yn cymryd rhan mewn democratiaeth yn parhau i fod yn faterion mawr i’r Cynulliad Cenedlaethol a sefydliadau democrataidd eraill yn y DU. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mor hawdd â phosibl er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei annog i beidio â phleidleisio oherwydd rhwystrau corfforol. Edrychaf ymlaen at glywed tystiolaeth gan grwpiau sydd â diddordeb.“
Bydd y pwyllgor hefyd yn trafod ei ymchwiliad arfaethedig i faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol ac yn ystyried y dewisiadau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor i ystyried materion plant a phobl ifanc.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd rhwng 9.30am a 11.30am.
Manylion llawn ac agenda