Pwyllgor Llywodraeth Leol i drafod ymateb i ymchwiliad Lyons
Bydd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod ymateb y llywodraeth i ddau o’i adroddiadau – ar reoleiddio ac arolygu gwasanaethau ac ar strwythurau rheoli mewn cynghorau lleol – yn ei gyfarfod nesaf.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod ei ymateb i ymchwiliad Lyons i’r dreth gyngor ac yn edrych ar y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau.
Bydd yr aelodau hefyd yn derbyn papur ar anghenion llety sipsiwn-teithwyr.
Cynhelir y cyfarfod am 9am ddydd Iau 15 Chwefror yn Ystafell Bwyllgora 2, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda
Pwyllgor Llywodraeth Leol i drafod ymateb i ymchwiliad Lyons
Cyhoeddwyd 15/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024