Myfyrwyr yn haeddu safon gyson o gymorth iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 29/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/03/2023   |   Amser darllen munudau

Dylai darparwyr addysg uwch a gwasanaethau statudol yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau lefel gyson o gymorth iechyd meddwl fel y gall pob myfyriwr gael y gorau o'i addysg.

Mae’n rhaid i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin rhwng darparwyr addysg, darparwyr gofal iechyd a Llywodraeth Cymru am y rolau a'r cyfrifoldebau mewn perthynas â lles myfyrwyr fod ar frig y rhestr flaenoriaeth. Bydd angen dull pwrpasol i ystyried mathau gwahanol o ddarparwyr, amrywiaeth y poblogaethau myfyrwyr, a'r byrddau iechyd gwahanol, dylai hyn nodi rhai egwyddorion sylfaenol sy'n sail i bwy sy'n gyfrifol am ba lefelau o gymorth.

Dylid datblygu fframwaith cyffredin ar draws y sector addysg uwch fel blaenoriaeth, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd, i bennu disgwyliad cyffredin o gymorth wedi'i deilwra yn ôl anghenion penodol ac unigryw’r boblogaeth myfyrwyr amrywiol a'r sefydliadau y maent yn mynd iddynt.

Dyma un o argymhellion adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 29 Mawrth 2023) yn dilyn ei ymchwiliad i effeithiolrwydd cymorth iechyd meddwl mewn lleoliadau addysg uwch yng Nghymru.

Yn aml, mae ystod o ffactorau a all arwain at broblemau iechyd meddwl i fyfyrwyr. Mae problemau megis y pandemig a phwysau costau byw yn effeithio ar bob un ohonom, ond mae pobl mewn addysg uwch yn wynebu heriau penodol a all fod yn unigryw i brofiad myfyrwyr. Gall iechyd meddwl myfyrwyr fod yn agored i nifer o ffactorau gwahanol.

Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn wynebu pwysau gwahanol i eraill, a bydd angen lefel arall o gymorth ar leoliadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dylid hefyd ystyried anghenion myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal, neu'r rhai a oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl cyn dechrau ar eu taith addysg uwch.

Er bod holl brifysgolion Cymru wedi ymuno â fframweithiau Stepchange a Suicide-safer Universities Universities UK, ac mae'n rhaid i bob un o ddarparwyr addysg uwch Cymru fod â siarter myfyrwyr, y tu hwnt i hynny, nid oes safon benodol ar gyfer gwasanaethau iechyd a lles meddyliol. O gofio bod myfyrwyr yn wynebu ystod mor eang o heriau, mae'n bwysig bod lefel y gofal ar gael ac yn briodol i bawb.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd:

"Ar hyn o bryd, nid oes safon benodol ar gyfer gwasanaethau iechyd a lles meddyliol mewn addysg uwch. Gan gydnabod poblogaeth gynyddol amrywiol myfyrwyr, ac ystod o ffactorau allanol a all effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant, mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid cael safon gyson o ddisgwyliadau i bob myfyriwr.

“Mae mynd i'r brifysgol ac astudio yn y brifysgol yn gyffrous ac mae'n gallu newid bywydau. I lawer o fyfyrwyr mae eu profiadau'n rhai da. Ond bydd eraill efallai’n profi adegau anodd gyda'u llesiant emosiynol a meddyliol.

“Roedd pawb y gwnaethom ni siarad â nhw yn glir ynglŷn â maint y broblem, a phwysigrwydd cael y cymorth yn y lle cywir ar yr adeg gywir. Ein gobaith yw y bydd ein hadroddiad a’r 33 o argymhellion yn helpu i sicrhau nad oes neb yn colli'r cyfle i wireddu ei botensial yn y brifysgol oherwydd ei iechyd meddwl.”

Canmoliaeth uchel i gynllun cymorth peilot Caerdydd

Mae cynllun peilot ym mhrifysgolion Caerdydd yn cael canmoliaeth uchel gan y Pwyllgor am y ffordd y mae'n diwallu anghenion myfyrwyr sydd o bosibl wedi colli'r cyfle o'r blaen i gael y math cywir o gymorth iechyd meddwl.

Sefydlwyd Cynllun Peilot Gwasanaeth Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl (MHULS) ym mis Ebrill 2022. Mae'n darparu cymorth i fyfyrwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae'r cynllun peilot i fyfyrwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl cymedrol neu broblemau iechyd meddwl tymor hir mwy cymhleth. Mae'n cael ei staffio gan staff y GIG sy’n gweithio yn y gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar y campws a'i nod yw pontio'r bwlch rhwng y cymorth a ddarperir gan ddarparwyr, a'r trothwy i gael mynediad at wasanaethau'r GIG. Yr allwedd i’w effeithiolrwydd yw sefydlu partneriaethau gweithio rhwng y sectorau addysg a gofal iechyd er mwyn darparu cymorth iechyd meddwl di-dor i fyfyrwyr.

Yn ystod chwe mis cyntaf y cynllun peilot, mae wedi gweld dros 200 o fyfyrwyr sâl yn feddyliol ac mae tua 18 y cant o atgyfeiriadau wedi bod yn rhai "categori D". Bydd y rhain yn bobl nad ydynt ar fin niweidio eu hunain, ond maent yn sicr yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl dwys a chymhleth.

Roedd y dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor yn dangos arwyddion bod y cynllun yn gweithio'n dda ac, yn amodol ar gwblhau asesiad llawn, mae'r Pwyllgor yn cefnogi cyflwyno'r model yn llawn ar draws Cymru. Gyda chymorth cyllid tymor hir wedi’i neilltuo i'w ddatblygu a'i gynnal, byddai ei gyflwyno ar draws sefydliadau’n gwneud cruyn dipyn i fynd i'r afael â llawer o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd:

"Mae'r dystiolaeth yr ydym wedi’i chlywed am sut mae myfyrwyr yng Nghaerdydd yn elwa ar gynllun peilot MHULS wedi creu argraff arnom. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut y bydd meithrin cysylltiadau rhwng y sectorau addysg a gofal iechyd, gobeithio, yn lleihau'r risg y bydd rhai myfyrwyr yn syrthio rhwng bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaethau. Mae'r arwyddion cynnar yn hynod gadarnhaol a chredwn ei bod hi’n hollbwysig manteisio ar y cyfle hwn a chefnogi’r gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru."

Mae'r adroddiad yn cynnwys 33 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a sut y dylai weithio gyda CCAUC a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i ddiwallu anghenion myfyrwyr addysg uwch Cymru.

Maent yn ymdrin ag ystod eang o faterion, megis effaith y pandemig, lliniaru effaith yr argyfwng costau byw, casglu data'n well, rhannu gwybodaeth yn well, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i staff a myfyrwyr a chyllid mwy cynaliadwy sy'n cyfateb i lefel yr angen.

Caiff yr adroddiad ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w ystyried.