Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyflwyno cynnig i gytuno penodiad Comisynydd dros dro

Cyhoeddwyd 06/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2018

Heddiw, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cyflwyno cynnig i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno i benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd dros dro.

Bydd yn gweithredu ar faterion yn ymwneud â chwyn a wnaed gan Joyce Watson a chwynion dilynol a ddaeth i law ynghylch yr un mater.

Yn unol â gofynion y Mesur, bydd y cynnig yn nodi'r amodau ar gyfer penodi Douglas Bain, gan gynnwys y raddfa gyflog, sy’n cyfateb i amodau’r Comisiynydd presennol.

Mae'r Pwyllgor yn hyderus bod gan Douglas Bain y profiad angenrheidiol i gyflawni'r swydd hon, gan ei fod wedi ymgymryd â rôl Comisiynydd Safonau Gogledd Iwerddon yn flaenorol.

Cynigir bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gweithredu

a) mewn perthynas â chwyn gan Joyce Watson AC, dyddiedig 8 Mai; nac

b) mewn perthynas ag unrhyw gŵyn arall sy’n codi mewn perthyna â’r gŵyn honno.

2. Yn penodi Douglas Bain CBE TD yn Gomisiynydd dros dro mewn perthynas ag unrhyw gŵyn y cyfeirir ati ym mharagraff 1, yn unol ag Adran 4 (1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, gan gadw at y telerau a ganlyn:

a) bydd y penodiad yn dechrau ar 7 Tachwedd 2018.

b) daw'r penodiad i ben ar unwaith pan fydd Clerc y Cynulliad yn hysbysu’r Comisiynydd dros dro.

c) bydd tâl y Comisiynydd dros dro yn seiliedig ar gyfradd ddyddiol o £392 (pro-rata am ran o ddiwrnod) am weithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd, ynghyd â threuliau rhesymol.

ch) Comisiwn y Cynulliad fydd yn talu pob swm y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(c) i'r Comisiynydd dros dro.