Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol i archwilio'r gyfraith arfaethedig gyntaf i godi trethi am 800 mlynedd

Cyhoeddwyd 16/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2016

Mae pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymgynghoriad i edrych ar y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i godi trethi yng Nghymru ers dros 800 mlynedd.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn chwilio am farn pobl, sefydliadau ac eraill â diddordeb wrth iddo edrych ar y 'Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)' , ac yn ystyried a fydd yn cyflawni ei amcanion.

Mae'r Bil wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru a'i ddiben yw sefydlu Treth Trafodiadau Tir (LTT) i ddisodli Treth Stamp ar Dir (SDLT) yng Nghymru. Bydd angen gweithredu'r darpariaethau yn y Bil o Ebrill 2018. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys mesurau a fwriadwyd i fynd i'r afael ag osgoi trethi datganoledig.

"Mae hon yn garreg filltir yn hanes datganoli yng Nghymru," meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth codi trethi i'w chyflwyno yng Nghymru ers amser Hywel Dda. Mae hefyd yn ddiddorol iawn i gofio mai'r defnydd hanesyddol diwethaf a gofnodwyd o gyfreithiau Hywel Dda oedd achos ynghylch tir yn 1540 yn Sir Gaerfyrddin, ac yn awr mae cyfraith trethi yn dychwelyd i Gymru gyda Bil yn ymdrin â thrafodiadau tir.

"Rydym yn mynd i fod yn edrych ar y Bil hwn yn ofalus iawn gan mai ei fwriad yw disodli'r system treth stamp bresennol a bydd hyn yn effeithio ar nifer fawr o'r cyhoedd yng Nghymru"

"Felly, rhaid iddo fod yn glir, yn gadarn ac yn ymarferol fel darn o ddeddfwriaeth a luniwyd ar gyfer anghenion Cymru."

Ymhlith y materion y bydd y Pwyllgor yn edrych arnynt yn ystod Cyfnod Un o'r broses ddeddfwriaethol fydd:

  • Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried.
  • A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol);
  • Pa mor briodol yw'r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.

 
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 21 Hydref a gall pobl gyfrannu naill ai drwy ysgrifennu at y Pwyllgor, neu drwy gymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein lle gall cyfranwyr gynnig a thrafod syniadau a materion.