Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn argymell y dylid rhoi’r pwer i Weinidogion Cymru adeiladu gwelliant i’r A40 yn Sir Benfro

Cyhoeddwyd 04/12/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn argymell y dylid rhoi’r pwer i Weinidogion Cymru adeiladu gwelliant i’r A40 yn Sir Benfro

Heddiw, mae Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig y Cynulliad Cenedlaethol ar “Orchymyn Drafft Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-“ yn cyhoeddi ei adroddiad ar ddeisebau Cyngor Sir Penfro a Mr K. Jones o Sunnyside Farm, Robeston Wathen.

Mae adroddiad y pwyllgor yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru gael y pwer i wneud y gorchymyn drafft a fyddai’n eu galluogi i fynd ymlaen â ffordd osgoi arfaethedig Robeston Wathen fel gwelliant i’r A40 yn Sir Benfro. Bydd y gorchymyn drafft yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru adeiladu’r ffordd newydd fel ffordd unffrwd tair lôn (ffordd 2+1).

Mewn perthynas â deiseb Cyngor Sir Penfro, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad:

  • Na fyddai gwella’r darn hwn o’r A40 i safon ffordd ddeuol yn well gwerth am arian na’r opsiwn ffordd unffrwd tair lôn a ffefrir gan Lywodraeth y Cynulliad

  • Bod yr opsiwn dan sylw yn osgoi gwario swm sylweddol iawn o arian cyhoeddus i ddarparu ffordd o safon na ellir ei gyfiawnhau ar sail capasiti am dros 30 mlynedd

  • O ystyried yr holl ffactorau perthnasol eraill hefyd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dangos bod y gorchymyn y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu’i wneud yn fuddiol ac er lles y cyhoedd.

O ran deiseb Mr Jones, er bod y pwyllgor yn cydymdeimlo â’r effaith y bydd adeiladu’r darn newydd o ffordd arfaethedig yn ei gael ar Sunnyside Farm, penderfynodd na fydd yr effaith net ar y ffordd y mae’r fferm yn gweithredu yn ddigonol i danseilio ei hyfywedd ac, yn sicr, ni fydd yn fwy na’r budd sylweddol i’r cyhoedd o ganlyniad i adeiladu’r ffordd newydd.  

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y pwyllgor:

“Mae’r pwyllgor wedi treulio llawer o amser yn ystyried y dystiolaeth a’r cyflwyniadau ynghylch deiseb Cyngor Sir Penfro a deiseb Mr K. Jones, un o’r trigolion lleol. Mae ein hargymhelliad wedi’i seilio ar drafodaethau manwl.  

“Er mwyn gallu gwneud penderfyniad, bu’n rhaid i’r pwyllgor ystyried sail yr holl dystiolaeth a gasglwyd ac os yw’r cynllun arfaethedig yn bodloni’r prawf o fod yn fuddiol ac er lles y cyhoedd. Daeth y pwyllgor i’r casgliad fod hyn yn wir yn yr achos hwn.”

Cyhoeddwyd yr adroddiad a’i holl ganfyddiadau a chasgliadau ar dudalennau’r pwyllgor ar wefan y Cynulliad. Mae trawsgrifiadau o wrandawiadau’r pwyllgor hefyd ar gael ar y wefan.  

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-so25-home.htm

Nodyn i olygyddion:

1. Y pwyllgor hwn yw’r Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig cyntaf i gael ei sefydlu. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Weithdrefn Cynulliad Arbennig yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-special-orders.htm

2. Sefydlwyd y pwyllgor ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2008 yn unol â Rheol Sefydlog 25.19. Aelodau’r pwyllgor yw: Christine Chapman AC (Cadeirydd), Chris Franks AC, Michael German AC, Irene James AC a Nick Ramsay AC.

3. Cynrychiolwyd y Cyngor gan Mr Winston Roddick QC a’r Cwnsler Mr Emyr Jones. Cynrychiolwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru gan y Cwnsler Mr Graham Walters. Cynrychiolwyd Mr K. Jones gan Mr J. Nicholas, Syrfëwyr Siartredig J. J. Morris.

4. Cylch gwaith y pwyllgor oedd ystyried deisebau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-  (“y gorchymyn drafft”) a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â Rheol Sefydlog 25.21. Bydd y pwyllgor yn dod i ben unwaith y bydd wedi cyflwyno’i adroddiad.

5. O dan Reol Sefydlog 25.23, os bydd y Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig yn nodi mewn adroddiad y dylid gwneud y gorchymyn drafft, fel yn yr achos hwn, caiff y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y gorchymyn ei wneud.   

6. Roedd deiseb Cyngor Sir Penfro yn dadlau y dylid ei adeiladu fel ffordd ddeuol o’r dechrau, a hynny er lles y cyhoedd.

7. Roedd deiseb Mr K. Jones, Sunnyside Farm, Robeston Wathen, yn dadlau na ddylid gwneud y gorchymyn oherwydd byddai’r darn hwnnw o ffordd yn rhannu Sunnyside Farm yn ddwy ran ac felly’n effeithio’n andwyol ar hyfywedd hirdymor ei fferm.  

8. Cyfarfu’r pwyllgor i glywed tystiolaeth a chyflwyniadau ar ran deisebwyr a Llywodraeth Cynulliad Cymru dros gyfnod o 7 diwrnod rhwng 7 Hydref a 24 Tachwedd 2008. Bu’r pwyllgor hefyd yn ymweld â Robeston Wathen a’r ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn ar 22 Hydref 2008.