Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnig newidiadau i’r rheolau ynghylch anghymwyso Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 30/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2015

Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol newydd awgrymu newidiadau i’r rheolau ynghylch anghymwyso Aelodau’r Cynulliad, a allai alluogi mwy o bobl i sefyll mewn etholiad.

Edrychodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater ar ôl i ddau Aelod gael eu hanghymwyso yn 2011 pan ddaeth i’r amlwg eu bod yn aelodau o gyrff cyhoeddus na all Aelodau Cynulliad berthyn iddynt.

Ni chaniatawyd i un ohonynt adennill ei sedd oherwydd canfuwyd nad oedd wedi edrych ar y rheolau perthnasol ar gyfer ymgeiswyr. Adferwyd y llall i’w swydd ar ôl canfod nad oedd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau.

Yn ystod ei ymchwiliad, canfu’r Pwyllgor fod cymhlethdodau rhwng rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n ymdrin ag anghymhwyso, a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, sy’n ymdrin ag agweddau ar gyfraith etholiadol.

Ar hyn o bryd, mae’r gwaharddiad rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad yn dod yn berthnasol pan fydd ymgeisydd yn cael ei enwebu ar gyfer etholiad. Ar yr adeg hon, yn ôl Gorchymyn 2007, ni ddylai ymgeisydd fod yn rhan neu’n aelod o unrhyw gorff ar restr hir a nodir yn Neddf 2006.

Fodd bynnag, yn hyn o beth, mae Gorchymyn 2007 yn achub y blaen ar Ddeddf 2006 i bob pwrpas, gan ddatgan bod anghymhwysiad yn dod i rym pan fydd Aelodau yn cael eu hethol.

Felly, o dan y Ddeddf, nid oes angen i ymgeisydd ymddiswyddo o’i swyddi tan iddo gael ei ethol. O dan y Gorchymyn, mae’n rhaid iddynt ymddiswyddo heb wybod a fyddant yn cael eu hethol ai peidio, sy’n golygu y gallai rhai ymgeiswyr wynebu’r posibilrwydd o fod yn ddiwaith pe baent yn colli.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai anghymhwysiad rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad ddod i rym wrth gymryd y llw neu’r cadarnhad teyrngarwch fel Aelod Cynulliad, yn amodol ar ychydig o eithriadau oherwydd natur y swyddi sy’n cael eu cyflawni.

Mae’r Pwyllgor yn credu y byddai hwn yn newid sylweddol a fyddai’n galluogi rhagor o bobl i sefyll mewn etholiad, oherwydd na fyddai’n rhaid iddynt roi’r gorau i’w cyflogaeth i wneud hynny.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, “Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai anghymhwysiad rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad ddod i rym ar gymryd y llw neu’r cadarnhad teyrngarwch fel Aelod Cynulliad”.

“Credwn fod hyn yn angenrheidiol i ddod ag eglurder i’r rheolau ar gyfer ymgeiswyr posibl. Mae angen yr eglurder hwn i osgoi ailadrodd y problemau yn 2011.

“Rydym hefyd yn credu y gallai cymryd cam o’r fath alluogi mwy o bobl i sefyll i gael eu hethol, oherwydd y gallent wneud hynny heb y posibilrwydd o wynebu diweithdra os na fyddant yn llwyddiannus.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 21 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth briodol i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu y dylai anghymwysiad rhag cymryd swydd gyhoeddus arbennig ddod i rym ar gymryd y llw neu’r cadarnhad teyrngarwch fel Aelod Cynulliad;

  • bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth briodol i gael gwared ar y darpariaethau perthnasol yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr, wrth dderbyn enwebiad, ddatgan, hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred, nad oes ganddynt swydd waharddedig; a

  • bod Llywodraethau Cymru a’r DU yn gofyn i Gomisiwn y Gyfraith ymchwilio i’r amrywiol opsiynau deddfwriaethol ar gyfer cyflwyno argymhelliad 2 ac adrodd yn ôl arnynt, a gwneud argymhelliad ar yr hyn y byddai’n ystyried i fod fwyaf priodol, o bosibl fel rhan o adolygiad ehangach o’r mater hwn ar draws holl ddeddfwrfeydd y DU.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gael yma.

Mae rhagor o dystiolaeth yn ymwneud â’r ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael yma.