Pwyllgor y Cynulliad i drafod deisebau newydd.

Cyhoeddwyd 06/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad i drafod deisebau newydd.

Bydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 11 Mehefin

Bydd y pwyllgor yn trafod deisebau newydd mewn perthynas â fflworideiddio cyflenwadau dwr cyhoeddus yng Nghymru; Cysgliad - geiriadur/thesawrws Cymraeg; mesurau seicolegol i leddfu traffig yn Nyfnant a lleoli cartref gofal i blant ym Mlaendulais.

Bydd Aelodau’n hefyd yn derbyn y wybodaeth diweddaraf ar ddeisebau blaenorol ar fferm gwynt gwastadeddau’r Rhyl; adolygiad cyntaf y cynllun gwastraff rhanbarthol; 'Pride in Barry’; papur dyddiol Cymraeg; ffyrdd diogel i ysgolion a charthu tywod ym Môr Hafren.

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 1 rhwng 9.00am a 10.15am.

Rhagor o fanylion am y pwyllgor ynghyd ag agenda