Pwyllgor y Cynulliad yn galw am eglurhad ar y cynllun Glastir

Cyhoeddwyd 03/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn galw am eglurhad ar y cynllun Glastir

3 Mawrth 2010

Dylai Llywodraeth Cymru egluro amryw o faterion sydd heb eu datrys cyn cyflwyno’i chynllun amaeth-amgylcheddol newydd, Glastir, meddai llythyr gan Gadeirydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad at y Gweinidog dros Faterion Gwledig.

Mae’r llythyr yn dilyn ymchwiliad byr gan yr Is-bwyllgor i’r cynllun Glastir, a glywodd dystiolaeth gan ffermwyr, undebau ffermwyr a sefydliadau amaethyddol eraill.

Yn ogystal â mynegi pryder am y diffyg gwybodaeth sydd ar gael am y cynllun newydd, nododd yr Is-bwyllgor bum mater allweddol y mae’n credu y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â hwy cyn ei roi ar waith.

Mae’r llythyr yn galw ar i’r cynllun Glastir gael ei wneud yn fwy hygyrch ac am i’r system bwyntiau gael ei hailasesu. Yn arbennig, clywodd yr ymchwiliad bod ffermwyr a oedd eisoes wedi gwneud gwaith er mwyn bodloni’r meini prawf mewn cynlluniau rheoli tir blaenorol fel Tir Gofal, yn ansicr a fyddent yn casglu’r pwyntiau angenrheidiol i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen newydd.

Mae hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n adolygu ei phenderfyniad i beidio â darparu cymorth gan swyddog prosiect ar gyfer y cynllun lefel mynediad ac edrych a oes gan ei swyddfeydd rhanbarthol y gallu i ymdopi â’r galw cynyddol am gymorth.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro’i phenderfyniad i ddod â’r taliadau pan fydd mwy nag un ffermwr yn defnyddio’r un tir i ben yng Nghymru, pan fyddant yn parhau yn Lloegr ac yn yr Alban, ac i gynnal asesiad ar effaith y newid ar dirfeddianwyr a thenantiaid yng Nghymru.

Pryder arall i’r Pwyllgor yw’r diffyg elfen gwaith cyfalaf yng nghynllun lefel mynediad Glastir ac mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’i chynlluniau mewn perthynas â hyn.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig: “Roedd wedi dod yn fwyfwy clir i’r Pwyllgor bod lefel uchel o bryder ymysg ffermwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch y cynllun Glastir newydd, a dyna paham ein bod wedi penderfynu edrych arno’n fwy manwl.

“Y farn lethol a glywsom yn ein cyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau oedd bod llawer o ansicrwydd yn parhau i fodoli am fanylion y cynllun newydd. Dyna paham ein bod wedi penderfynu ysgrifennu at y Gweinidog yn amlygu’r materion hyn yr ydym yn credu bod angen mynd i’r afael â hwy cyn y gellir cyflwyno’r cynllun Glastir.

“Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed datganiad y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar Glastir yr wythnos nesaf, ac rydym yn ei hannog i ystyried ein pryderon wrth iddi gwblhau manylion y cynllun .”