Pwyllgor y Cynulliad yn galw am Gynhadledd Llefarwyr

Cyhoeddwyd 02/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2018

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi galw am sefydlu Cynhadledd Llefarwyr i helpu i wella'r ffordd y mae seneddau'n gweithio gyda'i gilydd ac yn dwyn llywodraethau'r DU i gyfrif.   

Defnyddir Cynhadledd Llefarwyr yn San Steffan. Pwyllgor ydyw i bob pwrpas sy'n dwyn ynghyd aelodau o bob ochr o Dŷ'r Cyffredin a'r Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â materion cyfansoddiadol o arwyddocâd neu sensitifrwydd penodol sy'n gofyn am ateb trawsbleidiol.

Yr argymhelliad gan y Pwyllgor yw am gynhadledd sy'n cynnwys llefarwyr a  llywyddion o holl ddeddfwrfeydd y DU gyda'r nod o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gwaith rhyngseneddol y DU, yn enwedig fel modd o graffu ar effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar fframwaith cyfansoddiadol y DU.

Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Rydym yn gweld Cynhadledd Llefarwyr fel ffordd o gynyddu dealltwriaeth a chydweithrediad rhwng sefydliadau seneddol y DU mewn cyfnod hanfodol yn esblygiad cyfansoddiad y DU.”

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd nad oedd cysylltiadau rhynglywodraethol - a weinyddir ar hyn o bryd drwy'r Cyd-Bwyllgor Gweinidogion - wedi newid yn ddigonol ers eu cyflwyno yn dilyn datganoli, ac y gallai'r Gynhadledd Llefarwyr asesu dull Llywodraeth y DU wrth i'r DU adael yr UE. 

Nododd Mick Antoniw ymhellach: “Nid yw rôl y Cyd-bwyllgor Gweinidogion wedi esblygu yn ystod datganoli, tra bod datganoli ei hun, yn enwedig yng Nghymru, wedi gweld newidiadau cyfansoddiadol cyflym mewn cyfnod mor fyr. 

Mae deialog adeiladol, gynhwysol rhwng llywodraethau'r DU yn hollbwysig a bydd yn dod yn fwyfwy felly yn dilyn Brexit wrth i ni symud i gyfnod newydd o gysylltiadau rhyngwladol a datblygu economaidd.”

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld Bil yr UE (Ymadael) sy'n mynd trwy San Steffan, ac y byddai'n dychwelyd pwerau o Ewrop i gyfraith y DU, yn cael ei ddiwygio i roi cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol.

“Ar hyn o bryd nid oes unrhyw fframwaith cyfreithiol a dim llywodraethiant ffurfiol sy'n rhoi pŵer neu ysgogiad mawr i'r broses o lywodraethau'r DU yn gweithio gyda'i gilydd.”

“Mae hyn yn golygu bod y broses yn cael ei gyrru mewn gwirionedd gan bersonoliaethau ac mae'n gwneud y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn siop siarad yn anad dim, i drafod syniadau y tu ôl i ddrysau caeedig heb unrhyw dryloywder nac atebolrwydd.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud naw o argymhellion, gan gynnwys:

- Cryfhau y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn y tymor byr trwy sicrhau ei fod yn cyflawni swyddogaethau Uwchgynhadledd Penaethiaid Llywodraethau Blynyddol;

- Yn y tymor hwy, ar ôl Brexit, bod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ddarostyngedig i ddiwygio sylfaenol fel ei fod yn dod yn Gyngor y DU -

• sy'n gwneud penderfyniadau;

• sydd â mecanwaith datrys anghydfodau, cyflafareddu a dyfarnu annibynnol;

• sy'n dryloyw ac yn atebol ym mhob un o'i swyddogaethau a'i weithrediadau, yn arbennig, wrth wneud penderfyniadau.

- Bod y Llywydd yn ceisio sefydlu, gyda Llefarwyr a Llywyddion eraill holl ddeddfwrfeydd y DU, Gynhadledd Llefarwyr gyda'r nod o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gwaith rhyng-seneddol y DU, yn enwedig fel modd o graffu ar effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar fframwaith cyfansoddiadol y DU.