Pwyllgor y Cynulliad yn nodi chwe maes lle dylid gwarchod buddiannau Cymru wrth ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Cyhoeddwyd 07/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn nodi chwe maes lle dylid gwarchod buddiannau Cymru wrth ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

7 Mawrth 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi nodi chwe maes blaenoriaeth lle dylid gwarchod buddiannau Cymru wrth ddiwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi anfon ei gasgliadau at Lywodraeth Cymru, Senedd Ewrop ac amrywiaeth o swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n croesawu cynigion y broses ddiwygio yn gyffredinol ond sy’n annog sicrwydd y bydd cymunedau pysgota mewndirol Cymru yn cael eu gwarchod rhag gweithredwyr mawr.

Archwiliodd grwp Gorchwyl a Gorffen y cynigion i ddiwygio’r Polisi. Fe’i cadeiriwyd gan Julie James AC, a ddywedodd:

“Credwn fod y cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd yn amserol ac y dylid eu croesawu yn gyffredinol, ac rydym hefyd yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cynigion yn rhoi ystyriaeth ddigonol i fuddiannau ac anghenion y fflyd bysgota arfordirol fach yng Nghymru.

“Fodd bynnag, yn ystod yr ymchwiliad, galwodd rhanddeiliaid o bob sector ar y Comisiwn Ewropeaidd i egluro nifer o elfennau o’r cynigion deddfwriaethol ac rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd i ofyn am ragor o wybodaeth ac i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gwneud newidiadau i’r rheoliadau drafft.”

Yn ystod yr ymchwiliad, mynegwyd pryderon difrifol hefyd ynghylch effaith niweidiol Hawliau Pysgota Hanesyddol yn yr ardal rhwng 6 a 12 môr-filltir o fôr Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys y pryderon a ganlyn:

  • Gan mai ychydig iawn o fynediad at gwotâu ar gyfer stociau masnachol sydd gan bysgotwyr Cymru, mae maint y stoc pysgota yn nyfroedd Cymru wedi parhau i ddirywio; a

  • Nid yw llongau pysgota o fflydoedd sydd â hawliau hanesyddol yn dod â buddion economaidd uniongyrchol i gymunedau arfordirol Cymru ac mae unrhyw bysgod y byddant yn eu dal yn cael eu cofrestru yn eu Haelod-wladwriaethau hwy ac felly ni chânt eu hychwanegu at gofnod hanesyddol Cymru o’r pysgod a gaiff eu dal.

Er nad yw’n fater a gaiff ei ystyried yn uniongyrchol yng nghynigion y Comisiwn Ewropeaidd, mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i chwilio am ateb i’r pryderon uchod yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ac Aelod-wladwriaethau eraill. Os na chymerir camau difrifol yn y maes hwn, mae’r Pwyllgor yn credu y bydd dyfodol cymunedau pysgota arfordirol traddodiadol bach yn cael ei beryglu.

Y chwe maes blaenoriaeth a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad yw:

  • Sicrhau bod y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Chyfarwyddebau amgylcheddol presennol yr Undeb Ewropeaidd yn gyson, wedi'u hintegreiddio, ac yn cydymffurfio â'i gilydd.

  • Sicrhau y caiff cynlluniau aml-flwyddyn eu datblygu fel blaenoriaeth a’u bod yn cyfeirio at stociau arfordirol ac ecosystemau;

  • Sicrhau bod y rheolaeth dros bysgodfeydd yn cael ei datganoli i’r rhanbarthau a bod barn pysgotwyr sy’n gweithredu ar raddfa fach yn cael ei mynegi’n ddigonol yn y cynghorau cynghori;

  • Sicrhau nad yw’r cynigion gorfodol ar gyfer consesiynau pysgota y gellir eu trosglwyddo yn golygu mai’r rheini sydd â’r pwer mwyaf yn economaidd sy’n cael y cyfleoedd i bysgota gan roi cymunedau arfordirol o dan anfantais;

  • Sicrhau nad yw’r cynigion ar bysgod a gaiff eu taflu yn ôl yn atal y gweithgaredd cynaliadwy presennol o daflu pysgod byw yn ôl i’r môr; a

  • Sicrhau bod mesurau cadarn ar waith i sicrhau y caiff data eu casglu mewn modd systematig a chyson ledled yr Aelod-wladwriaethau.